Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/409

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hawdd i'r rhai cyfarwydd âg ef, frudiaw oddi-wrth ei ddull a'i agwedd cyn pregethu ar y cyfryw achlysuron pa fodd y byddai arno pan elai ati. Pan fyddai yn llawn ysbryd pregethu, a'i feddwl yn cydio yn ei fater yn y rhagolwg arno, nes y byddai ei enaid wedi chwyddo gan ddrychfeddyliau, byddai ei wefusau a'i eiliau yn ymsymud ac yn crychu, gan gyfnewid eu dull a'u ffurf yn barhaus; byddai ei lygad megys yn chwyddo, ac yn mynych newid ei ddynodiant (expression) megys pe buasai drychfeddyliau ei enaid yn saethu allan trwyddo, y naill ar ol y llall, a phob un yn argraffu ei ddelw ei hun arno yn ei fynediad drwyddo, a'r naill yn dinystrio gwaith y llall mor gynted ag y gorphenai ef. Edrychai weithiau yn hynod o absenol oddiwrtho ei hun, fel un wedi llwyr soddi, o ran ei feddwl, i ryw fater; pan orphenai yr hwn a bregethai o'i flaen, cyfodai i fyny mewn agwedd a dull a ddangosai bod ei holl deimladau wedi eu hadsefydlu, a bod y gwaith ag oedd yn myned yn mlaen yn y peiriant mewnol yn awr wedi sefyll, i'r dyben i'w ail osod i droi yn rheolaidd, er bwrw allan ei gynyrch i'r cyhoedd. Wedi darllen ei destun, yn lled afler yn gyffredin, a rhagymadroddi yn fyr, fel y crybwyllwyd, cydiai yn ei fater, a dosbarthai ef yn gryno ac yn fyr, a dechreuai ei osod allan a'i egluro mewn trefn, gan gadw perffaith lywodraeth ar ei deimladau a'i lais, fel un a fyddai yn gwbl feistr arno ei hun, ar ei