oddiwrtho os dewisa. Nid oes neb yn rhwym o gredu mai fel y bydd ef yn dywedyd y bydd y peth mewn gwirionedd, am mai efe sydd yn ei ddywedyd; ac os clywir rhyw un yn honi anffaeledigrwydd yn nghylch y mater, byddir yn chwanog i ofyn, "Pwy a'th osododd di yn farnwr?"... Nid ydyw yr ysgrifenydd heb ystyried yr anhawsder o ddarlunio athrylith Mr. Williams yn foddhaol gan bawb; er fod y gwr enwog hwnw, yn ei dyb ef, yn un o ragorolion y ddaear; canys dywed amryw eisoes fod gan amgylchiadau law fawr yn ei wneuthur ef y peth ydoedd, ac na fuasai yn gymaint pe cychwynasai allan i'r byd yn bresenol, pan y mae cymaint o ddynion o athrylith a chymhwysderau mawrion ar y maes. Nid ydys heb deimlo grym yr honiad hwn i raddau; a rhaid addef nad oedd ond ychydig o weinidogion yn bod pan dorai ef allan; ac fod y pethau a draddodent, a'u dull o'u traddodi, yn wahanol. Ychydig iawn a dramwyai yr hen bobl o gymydogaeth y "pum pwnc;" byddent yn ofalus neillduol, bob oedfa, am i bawb wybod mai Calfiniaid oeddynt; canys yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i'r wlad oddeutu 1800. Yr oedd dull hen weinidogion yr Annibynwyr o draddodi yn wahanol iawn hefyd i'r hyn oedd yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd ar y pryd, y rhai oeddynt yn meddu gafael cryf yn meddyliau y werin. Addefid fod gweinidogion yr Annibynwyr yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn iach yn y
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/425
Prawfddarllenwyd y dudalen hon