Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/452

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr achos trwy gamymddygiad, "Y mae y fath beth, meddai, "Yn ddigon i achosi na byddo yr un wên ar ein hwyneb tra byddom byw." Bod Mr. Williams yn bregethwr rhagorol iawn a addefir gan bawb a'i clywsant, ond anhawdd iawn ydyw darlunio ei ragoriaethau yn gywir, na'u holrhain i'w gwir achosion. Diau fod ei ffraethder a'i hyawdledd fel ymadroddwr, grym a pheroriaeth ei lais, y cyflawnder geiriau a feddianai, a'r ystwythder gyda pha un y traddodai bob amser, yn gwasanaethu er iddo fod yn bregethwr mawr a phoblogaidd; ond nid hyn yn unig oedd yn ei wneuthur felly; ond rhaid priodoli ei ragoroldeb penaf i'r pethau canlynol:—Ei nodweddiad dysglaer a digwmwl, ei wybodaeth o egwyddorion pethau yn gyffredinol, fel yr oedd ganddo gyflawnder o ddefnyddiau priodol wrth law i osod ei feddyliau allan yn eglur a tharawiadol—ac i'r modd y byddai yn deall yn drwyadl y mater a ymdriniai âg ef, fel y byddai yn gallu traddodi ei sylwadau yn oleu a grymus ger bron ei wrandawyr. Gwnai ddefnydd o bob peth o'i amgylch, ac o bob amgylchiad a'i cyfarfyddai, er cyfoethogi a galluogi ei feddwl i osod allan ei feddylddrychau mewn modd eglur a nerthol. Yr oedd ei sylwadau yn bethau ag oedd yn ymyl pawb o honom, a byddem yn synu na buasem wedi eu gweled a'u defnyddio o'i flaen. Yr oeddynt yn llawn o sylweddau, yn rhoddi goleuni i'r deall, a theimladau bywiog i'r