bren. Gadewch i ni weddio;" ac ymostyngodd ar ei gliniau, a gweddiodd yn ddwys, gan ddeisyfu yn ostyngedig, a thaer iawn, am i'r Arglwydd o'i drugaredd, gadw ei bachgen rhag y pechod o anonestrwydd, a rhag pob pechod arall hefyd. Teimlai William fod y weddi hono yn gerydd llym arno, a bod y lle yn annyoddefol iddo ef, tra y gweddiai ei fam dduwiol drosto. Gwnaethpwyd argraff annileadwy ar feddwl y bachgen ar y pryd, ac ni bu dim o'r fath beth yn brofedigaeth iddo ef byth ar ol y tro hwnw. Gwynfydedig yw y plant hyny a fendithiwyd â mamau mor onest ag ydoedd y fam hon, ac y mae miloedd o brofion yn ein gwlad, yn cadarnhau y dywediad, "Fod un fam dda yn werth cant o ysgolfeistriaid." Yr oedd bywiawgrwydd, hoenusrwydd, a direidi diniwed William mor amlwg, a'r fath wefr fyw yn ei natur, fel yr arferai ei dad ddywedyd am dano, ei fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd; ac megys y proffwydodd efe, felly yn hollol y bu, canys ni chododd neb o'i flaen o'r fangre hon, ac yn sicr, ni ddaeth neb ar ei ol hyd yma beth bynag, yn fedd- ianol ar y fath alluoedd naturiol dysglaer, ac o gyffelyb hynodrwydd a chyhoeddusrwydd ag ydoedd efe. Dywedai henafgwr parchus o'r ardal, ei fod yn dyrnu yn Cwmeisian Ganol unwaith, pan yr oedd ein gwrthddrych yn fachgenyn lled ieuanc, a'i fod yn gweled ynddo y pryd hwnw rywbeth ag oedd yn ei wahaniaethu yn amlwg oddiwrth blant
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/51
Prawfddarllenwyd y dudalen hon