a'ch Duw, a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddiwrthych fel na chlywo," Esa. lix. 1, 2. Bydd hyn yn wirionedd eglur yn y farn, nad ataliodd Duw ddylanwadau ei Ysbryd oddiwrth neb ond mewn cyfiawn farn, pa un bynag ai oddi wrthym ni yn bersonol ai oddi wrth ein teuluoedd.
4. Cofied y rhai annuwiol nad yw bod eraill yn peidio gwneud eu dyledswydd tuag atynt yn rheswm digonol i'w hesgusodi hwynt am eu hannuwioldeb, oblegid nid ydynt yn defnyddio y breintiau sydd ganddynt.
5. Mae hyn yn anogaeth gref i ni wneud ein dyledswydd, oblegid nid oes achos i ni betruso na lwyddwn yn ol fel yr ymarferwn â'r moddion a drefnwyd i hyny. Felly ymroddwn i wneud ein dyledswydd gan ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, a chredu na bydd ochr Duw byth ar ol.
PREGETH III.
"YR IAWN."
"Ac anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau," I Ioan iv. 10.
MEWN ffordd o arweiniad i mewn i'r hyn a ganlyn, cawn sylwi ar y pethau canlynol:—
1. Y Person a anfonwyd ydoedd y Mab, yr hwn oedd yn gyd-dragwyddol ac yn ogyfuwch a'r Tad. Yr oedd hyn yn angenrheidiol mewn trefn iddo fod yn hunanfeddianydd, heb hyny ni buasai ganddo hawl ar ei einioes i'w roddi dros eraill; ni byddai'n