Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/513

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfiawn i'r naill ddyn roddi ei einioes dros y llall, oblegid nad ydyw yn hunanfeddianydd. Yr oedd pob urddasolrwydd yn ei berson ef i wneuthur Iawn, fel yr oedd anrhaethol werth yn yr hyn a wnaeth efe yn lle a thros bechaduriaid.

2. Yr hwn a anfonodd y Mab oedd y Tad. Er fod Crist ynddo ei hun yn berffaith gyfaddas, eto ni buasai'r hyn a wnaeth yn ateb y dyben oni buasai i'r Tad, y Llywydd goruchaf ei anfon, neu ei osod i fod yn Iawn.

3. Yr hyn a wnaeth Iawn oedd ufudd-dod a dyoddefiadau yr Arglwydd Iesu Grist mewn cysylltiad anwahanol â'u gilydd.

4. Yr achos i Dduw ddanfon ei Fab i fod yn Iawn oedd ei gariad. "Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni." Nid amcan yr Iawn oedd rhwymo Duw y cariad i drugarhau wrth ryw nifer o bechaduriaid, nid oes eisiau ar ras ei roi dan rwymau i weithredu, dim ond yn unig cael ffordd addas i weithredu. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ei uniganedig Fab,"..."ac anfon ei Fab." Oddiwrth y geiriau amcanwn sylwi ar Iawn Crist yn ei wahanol berthynasau megys yn

I. YN EI BERTHYNAS A'R LLYWODRAETH FOESOL.

Y mae yn wir nad yw llywodraeth foesol yn enw (term) Ysgrythyrol, er fod ei gynwysiad yn y Beibl, mwy na deddf foesol. Ond er mwyn ei gwahaniaethu oddiwrth ddeddfau eraill, ac i ddangos mai â moesau ac ag ymddygiadau dynion y mae a wnelo hi, fe'i gelwir yn ddeddf foesol, a gwaith Duw yn llywodraethu dynion yn ol natur y ddeddf hon, ydyw llywodraeth foesol. Er mwyn gwahaniaethu, gelwir y rheol wrth ba un y mae yn llywodraethu y greadigaeth afresymol, ei lywodraeth naturiol, sylfaen hon yw perffaith wybodaeth