Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/540

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uffern am wneuthur yr hyn y mae Duw yn orchymyn, ond am eu camddyben gyda'i waith, ond bydd yr esgeuluswyr yn dyoddef am eu gwaith yn esgeuluso, ac am eu dyben drwg hefyd. Ond ni bydd neb yn cwyno yn uffern eu bod wedi cymeryd gormod o lafur i geisio trugaredd, ond bydd miloedd yn gruddfan am eu bod wedi cymeryd rhy fach o lafur. Y mae rhai wedi penderfynu nad änt i uffern y ffordd unionaf, ond y bydd iddynt amgylchynu Gethsemane a Chalfaria, ac yno ymdroi i syllu ar ddyoddefiadau Crist, ac oddiyno at orsedd trugaredd, a phenderfynu trengu yno os bydd raid.

(5). Mae bod Duw wedi ei gael gan y rhai nad oeddynt yn ei geisio, yn galondid mawr i ni geisio gofyn a churo wrth ei borth.

ADLEWYRCHIADAU:—

1. Yn y sylwadau uchod, gwelwn brawf-reol (maxim) i'r athrawiaeth. Os clywn ni am ryw athrawiaeth yn tueddu i ryddhau dyn oddiwrth ei ddyledswydd, y mae hono yn sicr o'n harwain i le drwg; o'r tu arall, os bydd rhyw athrawiaeth yn tueddu i ddangos nad yw cadwedigaeth pechadur yn gwbl o ras, y mae yn sicr fod rhyw ddrwg yn hono hefyd. O'm rhan fy hun, nid oes arnaf ofn un athrawiaeth a fyddo yn dangos iachawdwriaeth pechadur o ras yn gwbl ac ar un pryd yn ei rwymo fel y cyfryw at ei ddyledswydd.

2. Gwelwn fod calondid mawr i weinidogion y gair i fyned yn mlaen gyda'r weinidogaeth, er cymaint yw caledwch eu gwrandawyr; ac i benau teuluoedd i fyned yn mlaen gyda y grefydd deuluaidd er holl gyndynrwydd y rhai a fyddo yn wrthddrychau eu gofal. Gan mai Duw o'i ras sydd yn dechreu gweithredu ar galonau pechaduriaid, y