Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/569

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymdeithas, o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd, i sefyll wyneb yn wyneb.

2. Yr hyn sydd yn cyfansoddi un yn aelod o'r gymdeithas hon yw, yn gyntaf, mwynhad gweinidogaeth moddion moesol; yn ail, gallu i amgyffred natur y gwrthddrychau a osodir gerbron; yn drydydd, gallu i garu yr hyn sydd brydferth, a chasâu yr anmhrydferth; yr hyn yn yr Ysgrythyr a elwir "calon," am mai hon yw ffynonell gweithrediad yr enaid, fel y mae y galon naturiol yn ffynonell gweithrediad y gwaed. Ac yn bedwerydd, rhyddid i ddewis, heb fod dim o'r tu allan yn gwthio y galon i ddewis y drwg na dim yn ei rhwystro i ddewis y da. Dyma sylfaeni cyfrifoldeb dyn. Y maent fel pedair craig dragywyddol nas dichon i bechod eu dadymchwelyd, ac na bydd byth eisieu gras i'w hadgyweirio.

3. Gan mai Duw ffurfiodd y gymdeithas hon, ac mai efe yw y rhan bwysicaf o honi yn nghlorian bodolaeth, fod hyn o angenrheidrwydd hanfodol yn ei osod yn llywydd iddi. Y mae efe i ofalu am ddedwyddwch y gymdeithas; o ganlyniad nis gall fod yn edrychwr difater ar ymddygiadau ei haelodau heb fod yn anffyddlon i'w ymddiried.

4. Y ddeddf foesol ydyw rheol dedwyddwch y gymdeithas. Cydymffurfiad â'r erthyglau cynwys—edig ynddi ydyw dedwyddwch y gymdeithas, ond y mae anghydffurfiad yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn ei dedwyddwch.