Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modolaeth ac ymddangosiad dychmygol, yr ysbrydion y sonid cymaint wrtho am danynt. Ond y mae yn dra thebyg nad oedd yntau ddim yn fwy o amheuwr yn nghylch eu bodolaeth a'u hymddangosiadau nag ydoedd y rhelyw o fechgyn a thrigolion y cymoedd hyny yn yr oes hono. Fodd bynag, galluogir ni i weled drwy ddrych, yr hyn a ysgrif- enwyd, beth ydoedd nodwedd yr oes hono, a beth oeddent y dylanwadau yr ydoedd yntau yn agored iddynt y tu allan i derfynau aelwyd ei rieni. Ni dderbyniodd ddim manteision addysgol yn ei fachgendod, amgen na'r hyn a'i galluogodd i ddarllen yn iaith ei fam. Nid oedd ysgolion Sabbathol ond ychydig ac anaml yn y wlad y pryd hwnw, ac felly yn yr ardal hon hefyd, fel nad oedd manteision addysgol a chrefyddol ond nodedig o brin. Eto, yr oedd y nos yn cerdded yn mhell, a goleuni dydd hyfryd gwybodaeth yn dechreu pelydru ar yr ardaloedd. Bu y Parch. B. Evans yn llafurio yn egniol gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn er addysgu y bobl, a lledaenu terfynau achos yr Arglwydd yn yr amgylchoedd. Dilynwyd ef gan y Parchn. T. Davies ac A. Tibbot, y rhai a lafuriasent yn ddyfal yn y cylchoedd hyn. Yn amser yr olaf yr adeiladwyd capel cyntaf Penystryd, ac fel aelodau o eglwys Llanuwchllyn yr ystyrid y rhai a ymgyfarfyddent ynddo ar y dechreu, ac yno yr elent i gymundeb y saint. Hefyd, bu y goleuadau mawrion y Parchn. Thomas Charles, a