Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/581

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y galon oddiwrth yr olaf o'r cythreuliaid hyn. Yr oedd bwriad yr eglwys lle y llywyddai unwaith am ethol chwech o ddiaconiaid, yn ychwanegol at y rhai oedd yn y swydd yn barod. I'r dyben o roddi cyfeiriad i feddwl yr eglwys, ac i ragachub yr aelodau rhag rhedeg allan o derfynau priodoldeb yn eu dewisiad; a phenodi ar rai heb un math o gymhwysder at y swydd, nododd ddeuddeg o bersonau, ac erfyniodd ar y bobl ddethol y chwech a farnent deilyngaf o honynt, ac mai y rhai y byddai y nifer mwyaf yn pleidleisio drostynt a ddewisid. Felly fu, a'r canlyniad annedwydd ydoedd i'r chwech a adawyd yn y lleiafrif droi allan yn ddynion chwerw iddo ef, heb ei arbed â'r cableddau bryntaf. Dywedai un o honynt y goddefai ef y peth, ar yr amod fod i benderfyniad gael ei ysgrifenu yn llyfr yr eglwys, na byddai i'r fath etholiad gael ei ddwyn yn mlaen yn yr eglwys hono byth mwy; a'i atebiad ef iddo ydoedd, "O! ai cymaint a hynyna wyt ti yn ei ddeall o Annibyniaeth eglwysig eto?" Ai tybed na bydd gan y bobl a fydd yma yn mhen pymtheng mlynedd eto cystal cymhwysder a hawl i farnu drostynt eu hunain? Yr oedd yn alarus wrth feddwl iddo ef gael archolli ei deimlad, lle nad oedd un math o achos am hyny.

Yr oedd yn deall llawer am y natur ddynol, ond nid oedd wedi rhagweled digon i eithafion dichellion dynion cnawdol. Os nad oedd efe wedi tremio yn ddigon trwyadl i ragachub niwed trwy gyfrwysdra dynion