Tra yr oedd yn codi dwfr, daeth Mr. Williams yn mlaen, a safodd uwch ei phen. Ehedodd meddwl y pregethwr wrth ei gweled at hanes y wraig o Samaria, a dywedodd wrth y forwyn, "Os gwnei di ddweyd gweddi fach wna i ddysgu i ti bob tro y deui di yma i godi dwfr ar dy liniau fel hyn, mi roddaf haner sofren i ti pan ddeuaf yma nesaf." "Os gallaf ei dysgu, mi wnaf, Syr," meddai y for—wyn. "O, nid ydyw ond ychydig eiriau, sef 'Ar—glwydd dyro i mi y dwfr bywiol fel na sychedwyf.' Os byddi di yn siwr o ddweyd y weddi fer hon bob tro byddi yn myned ar dy liniau ar y gareg yna i godi dwfr, mi fydda i'n siwr o gyflawni fy addewid." Wedi llenwi y dwfr—lestr dychwelodd y forwyn gydag ef i'r ty, gan benderfynu gwneud fel y dysgodd y pregethwr hi. Yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn daeth Mr. Williams heibio drachefn i roddi oedfa, ac wedi myned i'r llety arferol gwelai nad oedd yr hen forwyn yno, a gofynai pa le yr oedd. "Mae yn ddrwg genyf ddweyd, Mr. Wil—liams bach," meddai gwraig y ty, "ein bod ni wedi gorfod ymadael â hi." "Mae yn ofidus iawn genyf glywed hyny," meddai Mr. Williams. "O," atebai y wraig, "ni wnaeth ddim drwg, ac y mae hi yn gwasanaethu gyda theulu parchus yn y dref yma, ac mewn parch mawr ganddynt. Y rheswm i ni ymadael â hi oedd ei bod hi wedi myned i bregethu wrth bawb ddeuent i'r ty i gael glasiad ar niweidiau yr arferiad o yfed diodydd meddwol.
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/604
Prawfddarllenwyd y dudalen hon