ALSO
ELIZABETH,
THEIR ELDEST DAUGHTER;
Who died February 21st, 1840;
Aged 22 Years.
ALSO
JAMES,
THEIR ELDEST SON;
Who died March 31st, 1841;
Aged 21 Years.
Dydd Mawrth, Medi 16eg, 1884, dadorchuddiwyd y Gof-golofn, a chan fod adroddiad gwerthfawr a chyflawn o'r gweithrediadau wedi ymddangos yn y Tyst a'r Dydd am ddydd Gwener, Medi 26ain, 1884, rhoddwn ef yma yn llawn:—
"Mae bellach tua 44 o flynyddau wedi myned heibio er pan y casglwyd y Parchedig William Williams at ei dadau. Yn ddiddadl, yn mysg Annibynwyr Cymru, ni chododd prophwyd mwy na Williams o'r Wern. Cyfrifir ef drwy gydsyniad cyffredinol yn un o gedyrn cyntaf Ymneillduaeth yn y Dywysogaeth. Er fod yr oes hono wedi myned heibio, y gweinidogion talentog a gydlafuriai âg ef gan mwyaf wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, a'r aelodau a dderbyniwyd ganddo wedi myned yn ychydig fel lloffion grawnwin cynhauaf