Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/612

Gwirwyd y dudalen hon

llythyrenau euraidd, a hysbysant pwy a hunai yno, dywedodd Syr George Osborne Morgan, wrth Lady Osborne Morgan, "It is a most beautiful thing." Yna yn ol trefniad blaenorol, aed i'r capel i wrandaw anerchiadau y cyfeillion a ddaethant yno ar yr achlysur, ac yn ebrwydd yr oedd capel yn llawn. Wedi canu emyn, dywedodd y cadeirydd na buasai ef yn dymuno anrhydedd mwy na chael bod yn gadeirydd y diwrnod hwnw. Yr oedd ei anwyldeb o Mr. Williams yn fawr, a'i adgofion o'i ddywediadau, a'i bregethau, yn lluosog, ac yr oedd yn credu yn ddiysgog mai efe ar lawer ystyr oedd y pregethwr mwyaf a welodd Cymru. Ond gan fod yno gynifer o wŷr parchus i anerch y cyfarfod, byddai yn annoethineb iddo ef fyned a'u hamser. Yna galwyd ar y Parch. R. Roberts, Rhos, i ddweyd gair o hanes y mudiad. Dywedodd Mr. Roberts, fod y meddylddrych wedi cychwyn gyda nifer o gyfeillion oedd yn teimlo yn ofidus o herwydd sefyllfa adfeiliedig bedd Mr. Williams. Dywedai rhai mai oferedd oedd gwario y fath swm o arian mewn lle fel y Wern. Dywedai eraill mai cael ysgoloriaeth yn dwyn ei enw yn un o'r Colegau fuasai fwyaf bendithiol, a thybiai eraill nad oedd angen y fath beth a chof-golofn ar Mr. Williams, gan fod ei fywyd a'i lafur yn gof-golofn iddo ef na ddileuir mo honi tra bo Cymru yn bod. Ond yr oedd y cyfeillion wedi gwneud eu meddwl i fyny, ac nid oedd troi yn ol arnynt. At y £50 a