Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/615

Gwirwyd y dudalen hon

oedd Shakespeare, ac mai Dr. William Rees oedd Milton y pulpud Cymreig.

Wedi hyny galwyd ar Mr. Rees, Caer. Nis gwyddai ef yn iawn paham y gelwid arno i ddweyd dim ar yr achlysur hwn, oddieithr am yr anwyldeb a deimlai ei dad at Mr. Williams. Nid oedd efe yn gallu cofio Mr. Williams, a theimlai braidd yn ofidus am hyny. Ond yr oedd wedi ei fagu ar aelwyd lle y perchid ef yn fawr. Dysgwyd ef o'i febyd i feddwl am dano fel angel Duw. Dylai teuluoedd ofalu am feithrin teimladau uchel a siarad yn deilwng am weinidogion y gair. longyfarchai ef y pwyllgor ar orpheniad y gwaith, a gwyddai am un, oni bai i'r nefoedd ei gymeryd ymaith, fuasai yn sicr o fod yn eu plith y diwrnod hwnw. Cafwyd ychydig eiriau hefyd, gan Mr. Roberts, Wyddgrug, a Mr. Lester, J. P., Adwy'r Clawdd, a nifer o'r hen aelodau o'r Wern, Nant, a'r Rhos. Terfynwyd drwy weddi gan Mr. Jones, Chwilog. Yr oedd amryw o weinidogion o enwadau eraill yn bresenol; yn wir, yr oedd y cynulliad o ran rhif a pharchusrwydd tuhwnt i ddim a ddysgwyliasom, ac yr oedd y teimlad a'r urddas a nodweddai yr holl weithrediadau y fath na cheir ond anfynych. Bu Mr. a Mrs. Daniell yn dra charedig yn croesawu y dyeithriaid. Yr oedd eu ty yn llawn drwy y dydd, ac yr oedd eu cerbyd at wasanaeth y gweinidogion. Dyma un o'r teuluoedd goreu yn y cylchoedd hyn, a dylem fod yn falch o honynt. Pregethwyd yn yr