Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

O'I ARGYHOEDDIAD HYD NES Y DECHREUODD BREGETHU 1794—1800.

Y CYNWYSIAD.— Yr oedfa yn Medd-y-coedwr Capel cyntaf Penystryd—Neillduo Mr. William Jones yno yn weinidog—Prophwydoliaeth yr hen brophwyd o Bontypool am dano—Diwygiad crefyddol yn Mhenystryd—Mr. Jones yn anghofio am ei anifail—Mynegiad yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am nodwedd WILLIAMS yn ei ieuenctyd—Myned i'r gyfeillach am y tro cyntaf—Y gweinidog a'r eglwys yn methu a deall beth i ddywedyd wrtho——Ei dderbyn yn gyflawn aelod—Yntau yn ymwrthod â chwareuon pechadurus—Teimlo gwasgfa a chaledi yn ei feddwl—Cael ymwared trwy aberth y groes—Dylanwadau teuluaidd yn fanteisiol iddo —Ei chwaer Catherine ac yntau yn cyd—deithio i Benystryd—Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio—MR. WILLIAMS yn adgofio am hyny— Ofni cymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus Ei fam ac yntau yn gweddio wrthynt eu hunain—Ei weddi gyhoeddus gyntaf—Yr aelwyd yn lle manteisiol i ymarfer ar gyfer yr addoliad cyhoeddus— Hen ddiaconiaid Penystryd gan Gwilym Eden— Buont yn garedig i'n gwrthddrych—Ei barch yntau iddynt—Ei alw yn "Gorgi bach" yn Maentwrog ——Hoffi myned i Lanuwchllyn—Mewn enbydrwydd am ei einioes wrth fyned oddi yno tuag adref