a phob ysbryd arall o ran hynny—cais awen y cerddor hefyd, nid yn unig bapur a nodau, ond hefyd gôr a chyfleustra datganiadol i gyrraedd hunan-fynegiant cyflawn. Er i ni allu edmygu Parry am ganu ymlaen o gariad at gân, ac er i ni gydymdeimlo ag ef yn ei ymagweddiad ymostyngol a lleddf ar derfyn ei ddyddiau pan yn dywedyd mai ei waith ef oedd cyfansoddi ac nid cyhoeddi, rhaid i ni gofio ei fod wedi ei ddidwyllo gan helynt a siom y blynyddoedd erbyn hyn. Ni feddai addfedrwydd heddychlon y ddoethineb hon yn Aberystwyth; a chawn ef yn dechreu ei ymgyrchoedd o blaid Gŵyl Gerddorol flynyddol. Yng Ngŵyl Gerddorol Harlech yn 1878, cawn ef yn rhoddi anerchiad i'r perwyl hwn. Wedi cyfeirio at yr angen am offerynnau mwy effeithiol ac amherffeithrwydd y canu hebddynt, aeth ymlaen i ddywedyd yr hoffai weld Oratorio Festival flynyddol mewn lle tebyg i Bafiliwn Caernarfon, a phenodi un o'n cyfansoddwyr i baratoi Oratorio at bob blwyddyn. Ni ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun, ond i symbylu cyfansoddwyr ieuainc i droi i'r cyfeiriad hwn, er dyrchafu caniadaeth Cymru yng ngolwg y byd. Er yn ddiau ei bod yn wir na " ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun," tebyg ei bod hefyd yn wir mai y ffaith ei fod ef yn awr yn llawn o "Emmanuel," "Nebuchadnezzar," etc., ac yn llawn o ymdeimlad o ddiffyg mantais i'w datganu, a barai iddo bwysleisio yr Ŵyl Gerddorol, a pharhau i wneuthur hynny am flynyddoedd.[1]
Geilw gwrthdarawiad arall a daflodd gryndod drwy ei holl fywyd, am bennod iddo ei hun.
- ↑ Ymddengys i Mr. D. Jenkins alw sylw at yr angen am ŵyl o'r fath i ddatganu gweithiau Cymreig a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn a hi yn 1877, ond yr oedd yr athro a'r disgybl yn deall ei gilydd yn ddiau.