dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd. Gwaith anodd fyddai i'r Cyngor gael un a lanwai ei le. Mae y ffaith fod cymaint o efrydwyr cerddorol wedi gosod eu hunain dan addysg gerddorol yn y brifysgol, gan ymgydnabyddu â gweithiau y prif feistri, ac wedi ymsefydlu fel athrawon cerddorol yn y wlad, yn sicr o ddyrchafu chwaeth y werin, a gyrru i ffwrdd gerddoriaeth isel a llygredig, yn gystal a phersonau o'r un cymeriad oddiar lwyfannau ein gwlad. Gan hynny, gofynnwn unwaith eto, paham na chaiff y sefydliad lonydd oddiwrth y cyfnewidiadau diddiwedd hyn, fel y gallo gwblhau y gwaith y mae wedi ei ddechreu mor dda ac effeithiol?
David Jenkins."
Aberystwyth, Gorff. 14, 1879.
("Ymddengys fod y Cyngor wedi penderfynu fod Dr. Parry i ddysgu cerddoriaeth i'r efrydwyr yn gyffredinol; felly ni fydd mwyach efrydwyr cerddorol yn unig yn y Coleg.") '
Ysgrifenna Alaw Ddu yn "Yr Ysgol Gerddorol": "Y mae yr adran gerddorol wedi ei diddymu; ond y mae Dr. Parry yn parhau yn broffeswr yno o hyd, er nad oes ganddo ddim i'w wneuthur, a hynny am mai yn anaml iawn y bydd efrydwyr mewn canghennau eraill yn ymofyn am wersi mewn cerddoriaeth. . .
"Dygwyd Mr. Parry o bellafoedd y gorllewin, o ganol digon o waith, ac o fynwesau cannoedd o gyfeillion twymgalon, i lenwi y Gadair Gerddorol yn Aberystwyth; ac wedi iddo weithio, ie, a gorweithio ei hunan—mewn amser ac allan o amser—i gyfoethogi cerddoriaeth ei wlad, a rhoddi cyfeiriad a chynhyrfiad i beiriant mawr addysg gerddorol y Dywysogaeth, dyma awdurdodau y Coleg, o'u rhan hwy, yn ei adael allan yn yr oerfel! Symudiad yw hwn a fydd yn sicr o oeri Cymru benbaladr at y Coleg, os na agorir, a hynny'n fuan, y Coleg i ddysgu cerddoriaeth. "Buasai dyn llai penderfynol yn mynd yn ol i'r America, ond y mae Dr. Parry'n cychwyn Coleg Cerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun."
Yr oedd yna deimlad cryf fod y Cyngor yn ymddwyn yn annheg tuag at Dr. Parry: yr oedd yna annhegwch arall