y geilw un o'r myfyrwyr (Mr. J. T. Rees) sylw ato yn "Y Gerddorfa": "Y mae'n wybyddus bellach mai nid yr U.C.W. a feddylir wrth yr 'Academy of Music.' Bwriwyd y gangen yma allan fel un annheilwng i'w hastudio wrthi ei hun heb gael Latin a Greek i'w dal i fyny megis, i fod yn deilwng o efrydiaeth. Ond nid hir y bu y golomen yma cyn cael lle i roddi ei throed i lawr, er ei bod wedi ei hamddifadu o'i breintiau am a wyddom ni. Y mae ysgoloriaethau at wasanaeth y gangen yma, ond pa le y maent? Carem weld rhywrai yn ein cynorthwyo . . . Er fod y gangen wedi ei thorri oddiwrth y boncyff, a'i thaflu i'r ffos megis, y mae yn tyfu fel cangen yr helygen."
Gohebydd Neilltuol "Y Gerddorfa" eto:
"Y mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth o'u penarglwyddiaeth wedi dwyn eu penderfyniad i weithrediad drwy gau dorau y sefydliad yn erbyn yr adran gerddorol. Bellach ai nid gonestrwydd fyddai i'r awdurdodau ddychwelyd yr arian a gasglwyd at ysgoloriaethau Ieuan Gwyllt a Mynyddog? Gan fod Dr. Parry, fel y deallwn, wedi sefydlu Athrofa Gerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun, tegwch fyddai trosglwyddo yr oll a berthyn i gerddoriaeth i'r sefydliad hwnnw."
Trosglwyddwyd yr arian yn ddiweddarach i'r Athro at wasanaeth y Coleg Cerddorol. Ynglŷn â'r Musical College of Wales yn Abertawe, yr oedd yn alluog i gynnyg tair ysgoloriaeth, er cof am Ieuan Gwyllt, Mynyddog, ac Ambrose Lloyd.
Eto yr oedd—ac y mae—cryn ddirgelwch yn amgylchynnu'r mater, yn neilltuol y "paham" y darfu i'r Cyngor weithredu fel y gwnaeth.
Dyma benderfyniad y Cyngor (Gorff. 29, 1878):
"That measures be taken to alter the position of Prof. Parry in accordance with the following Minute, viz. That the Principal should confer with Prof. Parry on his position at the University College, and propose to him a new arrangement based on his discontinuance of teaching Music to any but the ordinary male students of Art at the College. It has been suggested with the general approval of the Council, that Dr. Parry should retain his Professorship at a salary to be