agreed upon for such teaching as above-mentioned. Dr. Parry would be free to give such teaching, of a public or private nature, at Aberystwyth or elsewhere, as he may think proper on his own account, and outside the walls of the College—it being, however, clearly understood that during the Sessions of the College Dr. Parry should not give, nor professionally attend concerts in Aberystwyth or in its immediate neighbourhood."
Yna, Hydref 12, 1880, pasiwyd a ganlyn:
"That the Council in accepting the resignation of Prof Joseph Parry regrets exceedingly the circumstances which have led to the severance of his connection with the College. They desire to express their high sense of the zeal with which he performed his duties and most cordially reciprocate the kindly feeling which he expresses."
Y mae y gair "circumstances" yn un cyfleus i guddio lliaws o achosion, ac efallai, o bechodau; ond y mae'r achosion uniongyrch yn y penderfyniad cyntaf uchod, oblegid y mae'n amlwg fod yna fwriad i ostwng cyflog Parry, i wneuthur i ffwrdd â'r adran gerddorol fel y cyfryw (ac yr oedd hyn, medd Mr. Jenkins, cystal â notice to quit); ac i'w rwystro i gynnal cyngherddau yn y dref a'r ardal yn ystod y tymor (cyngherddau a ddygai iddo gryn elw). Ond y mae'r achosion pellaf yn gorwedd y tu cefn i'r penderfyniad cyntaf.
Nid yw siarad yr ystrŷd, na hyd yn oed cynteddoedd y coleg, yn help i ddod o hyd i'r ffaith mewn mater fel hwn, a phe croniclo ffeithiau noeth fyddai gwaith cofiannydd, iawn fyddai iddo osgoi cyfeirio at storïau pen ffordd. Ond cais y cofiannydd atgynhyrchu cymeriad ei wrthrych a'i amgylchfyd, a chyda'r amcan hwn y mae barn y lliaws ar fater fel yr uchod, a'u hymgais i'w esbonio o gryn bwys, oblegid ceisient gyfrif am weithred y Cyngor, a'i ymddygiad at Parry yng ngoleuni eu syniad hwy amdano ac am yr adran gerddorol. Yn ol Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., dyma'r sefyllfa yn Aberystwyth: "Y mae yn sicr fod teimlad yn bodoli y dylasai efrydwyr cerddorol y Coleg gymryd efrydiau eraill yn ogystal. Yr oedd llu cymharol fawr ohonynt—mwy nag yn yr adrannau eraill; ac nid oedd ym mryd neb ohonynt i geisio dim arall yn y coleg ond y canu.