gerddorol y Coleg, a hynny am resymau na ddalient unrhyw berthynas â'ch safle a'ch llwyddiant chwi fel athro."
Mr. Stephen Evans, y trysorydd, yntau ddywed: "Cododd y penderfyniad i beidio â pharhau yr adran gerddorol o ddiffyg arian, ac yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro, yr oedd gan y Cyngor bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni a'ch medr rhagorol chwi fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth."
Clywais gyfaill i'r Prifathro, a chyd-athro iddo, unwaith yn dywedyd nad yw yn angenrheidiol dywedyd y gwir i gyd pan na byddo galw am hynny. Mewn tystysgrif nid oes galw am hynny: o leiaf, y mae llawer o fedr yn cael ei arddangos gan ysgrifenwyr y cyfryw—fel gan y rhai a etyb gwestiynau anghyfleus yn y senedd—i ddefnyddio iaith yn y fath fodd ag i guddio a datguddio. Rhywbeth felly geir yma. Ni ddywed yr un ohonynt yn bendant mai y rheswm a'r unig reswm dros beidio a pharhau yr addysg gerddorol oedd diffyg arian. Dywed y Prifathro i hyn ddigwydd dan amgylchiadau felly. Ni ddywed ychwaith fod y Drysorfa yn rhy isel i gadw'r addysg gerddorol ymlaen, pe byddai awydd cryf i wneuthur hynny. Yr hyn a ddatguddia Mr. Stephen Evans ini yw i'r penderfyniad godi o ddiffyg arian. A thra y cyfeiria'r tri at allu Parry fel athro, nid oes yna gyfeiriad o gwbl at ddisgyblaeth yr adran gerddorol a'i pherthynas ag eiddo'r Coleg.
Trown yn awr at dystiolaeth Parry ei hun, yr hon a gawn yn ei anerchiad wrth gychwyn y "Musical College of Wales" yn yr Agricultural Hall, Abertawe. Wedi datgan ei obaith y byddai'r coleg yn llwyddiant, ac y byddai rhif y myfyrwyr yn galw am staff o athrawon, ä ymlaen: "Disgwyliwn hyn yn Aberystwyth. Yr oedd rhif yr efrydwyr yn galw am Athro arall, ond yr oedd polisi dinistriol y Cyngor yn gwanychu y llwyddiant drwy ostwng rhif yr efrydwyr cerddorol, a thrwy eu rhwystro i dderbyn ymrwymiadau achlysurol mewn cyngherddau er mwyn eu cynhaliaeth, tra y caniateid i'r myfyrwyr pregethwrol fynd yn wythnosol. Eto, yr oedd y myfyrwyr cerddorol yn ffurfio yn agos i'r bedwaredd ran o'r oll, pryd yr oedd yna naw o athrawon yn y Goleg, a pharhaodd