yr adran i fod ymron yn hunan-gynhaliol. A thra y teimlai y wlad ddiddordeb dwfn yn yr adran, a chanddi ysgoloriaethau ynddi er cof am Ieuan Gwyllt a Mynyddog; a thra y codwyd gennym ni-drwy Bazaar—£260 i brynu organ er mwyn cymhwyso'r myfyrwyr i fod yn organyddion, gan gyfeirio ein hymdrechion felly at wella cerddoriaeth yn y cysegr—arian sydd yn gorwedd yn segur ers yn agos i dair blynedd; a thra, ymhellach, yr anrhegwyd yr adran gan gyfaill cerddorol i mi â thros 200 o gyfrolau o weithiau clasurol gyda full scores; eto i gyd, drwy ewyllys nifer fechan o aelodau'r Cyngor, daethpwyd o'r diwedd i'r penderfyniad anesboniadwy i beidio a pharhau yr adran gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, heb air o esboniad i mi nac i'r wlad paham y daethpwyd i'r fath benderfyniad rhyfedd."
"Heb air o esboniad i mi": tebyg i'r Cyngor farnu'n oreu i beidio rhoddi'r gwir esboniad, a phe dywedasid wrtho mai y rheswm oedd diffyg arian, gosodasent eu hunain yn agored i'r ateb fod yr adran agos yn hunan-gynhaliol. Yn ei sylwadau bywgraffyddol ar Dr. Parry (yng "Ngherddor " 1913) ceisia yr Athro D. Jenkins gyfuno y ddau reswm, sef yr un a roddwyd yn ddiweddarach gan rai o aelodau'r Cyngor, a'r un oedd ar wefus y lliaws: "Gwnaeth lawer o droeon ffôl, a chymerodd parti cryf yn Llundain oedd yn llywodraethu Coleg Aberystwyth fantais ar hynny, ac oherwydd sefyllfa ariannol y Coleg, bu rhaid rhoddi'r gadair gerddorol i fyny." Ni ddeil y frawddeg hon, a'r modd y llithrir o'r naill achos i'r llall, i'w helfennu na'i beirniadu; ond am yr un rheswm dengys y modd y ceisid cael rhyw esboniad boddhaus ar yr ymdrafodaeth.
Prawf Hunangofiant Parry a'r dyfyniad uchod o'i anerchiad yn Abertawe ei fod ef ei hun wedi ei ddolurio'n dost, a diau fod cydymdeimlad y bobl gydag ef, oblegid ynglŷn ag agoriad y Coleg Cerddorol newydd, darllenwn: "I'r diben o agor yr ysgol newydd, ac i gydymdeimlo â Dr. Parry yn y cyfwng presennol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms pryd y daeth lliaws o'i gyd-drefwyr ynghyd." Ymhlith eraill siaradodd y Prifathro T. G. Edwards yn gryf o blaid y fath Goleg. Ar y llaw arall, rhaid cydnabod fod y Senate a'r Gyngor mewn sefyllfa anodd, a'i bod yn dra helbulus arnynt. Pan