wahoddasant Parry o bellafoedd byd i ddod â'i athrylith a'i ddysg i ogoneddu Coleg Aberystwyth, ni fargeiniasant erioed eu bod i gysylltu y Coleg—a'u hurddas hwythau—a chynffon comedi. Tebyg fod yr athrawon yn ei theimlo'n chwith, a'u teimlad o urddas coleg yn cael ei ddolurio, wrth weld cynifer o hogiau a genethod yn dod yno i ganu'n unig, heb unrhyw gysylltiad â'r dosbarthau arferol, a'r rheiny ar y cyfan yn amrwd a di-reol, a chanddynt ddigon o amser i gerdded y strŷd, neu fwynhau y dŵr yn fwy na dysg. A phan at hyn, na fynnai eu Hathro, os gwir y sôn, gydymffurfio ag arferion coleg, aeth y "llin yn mygu," ys dywed Mr. J. T. Rees, yn fuan yn fflam! Nid yw "dyn y strŷd " fel rheol ymhell o'i le ar bethau canolog, a diau fod ei syniad am ymagweddiad Parry tuag at yr awdurdodau colegawl yn weddol gywir. Ni fedr Mr. Rees sicrhau fod yr hyn a edrydd yn llythrennol gywir—wrth ddywedyd hyn awgryma ei fod yn rhinweddol gywir. Y mae yna stori am J. Stuart Blackie, iddo un bore ysgrifennu â sialc ar y blackboard: "Prof. Blackie will not meet his classes to-day." Pan ddaeth y myfyrwyr yno, meddyliodd un ohonynt mai difyr fyddai chwarae joke ar yr Athro, drwy flotio yr "c" allan o'r gair classes, a'i adael yn lasses. Fore trannoeth, pan ddaeth yr Athro i'r ystafell fe welodd y tric yn union, a meddyliodd dalu'r pwyth yn ol drwy ddileu yr "l" o'r gair lasses ynghyd â'r gair not o'r frawddeg. Pan adroddwyd y stori hon unwaith wrth fwrdd cinio yr Athro, dywedodd nad oedd yn wir, ond meddai Mrs. Blackie, "But it is what you would have done." Ac yn yr ystyr yma, tebyg fod yr hyn a ddywedir gan Mr. Rees am y Doctor yn wir. Ac ai nid eco hyn, neu efallai eco agosach at y sŵn gwreiddiol a glywwn yn ei anerchiad, pan y cwynai sut y caniateid i'r pregethwyr fynd i ffwrdd i'w hymrwymiadau wythnosol, yr hyn na chaniateid i'r canwyr. Ymddengys ei fod ef yn hawlio mynd i ffwrdd—ef a'i efrydwyr—yn wythnosol—yr hyn nad oedd yn bosibl wrth gwrs ar y Sul.
Rhaid fod yna resymau tra chryf dros y cyfnewidiad, oblegid os oedd trysorfa y Coleg yn isel eisoes yr oeddynt yn rhedeg risk o'i gwacau'n fwy. O'r cyfraniadau gwirfoddol at y Coleg y pryd hwnnw, cawn fod Eglwys Loegr