yn cyfrannu 33 y cant, y Methodistiaid Calfinaidd 29, yr Annibynwyr 24, a'r enwadau eraill 14. Rhaid fod gan y Cyngor ffydd ym mawrfrydigrwydd yr Annibynwyr, neu ynteu gred na byddai diraddiad un yn perthyn i enwad neilltuol yng Nghymru, lle mae'r teimlad enwadol mor gryf, yn ddim ond symbyliad i'r enwadau eraill.
Rhwng popeth, diau fod y senedd yn teimlo'n llai anniddig ac yn fwy diogel a sicr yn eu hurddas, wedi cael gwared ar y Celto-American annibynadwy o'u plith—y Jonah hwn o'u llong.
Gan mai rhywbeth tebyg ar y cyfan fu ei waith fel athro yn Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd, gallwn ddywedyd yr hyn sydd i'w ddywedyd am y cylch yma o'i weithgarwch yn y fan hon. Cyfeiriwyd uchod at y si oedd ar led ynghylch ei fethiant yn Danville, a'r si gyffelyb ynghylch ei waith yn Aberystwyth, a chlywyd hi, i fesur llai, yn y ddau le arall—sonnid fod yna anhrefn y tu mewn i'r dosbarthau, ac yn Aberystwyth afreolaidd-dra ym mherthynas y gangen gerddorol â'r gweddill o'r Coleg. Ar y llaw arall, y mae gennym dystiolaethau ei ddau brifathro, ei gyd-athrawon yn y ddau Goleg, a nifer o'i ddisgyblion blaenaf, i'w allu a'i lwyddiant fel athro. Ond yr hyn a bwysleisiant yn bennaf yw ei frwdfrydedd, ei ymroddiad, a'i ynni. "Fel athro," meddai'r Prifathro T. C. Edwards, " yr oedd yn frwdfrydig ei hunan, ac yn gallu taflu ei frwdfrydedd i eraill." Dywed y Prifathro Viriamu Jones ei fod yn falch o gael dwyn tystiolaeth " i'w allu fel athro, ac i'r llwyddiant a ddilynodd ei waith " yng Nghaerdydd, gan gyfeirio'n neilltuol at y "brwdfrydedd hunanaberthol" (self-sacrificing ardour) a'i nodweddai. Y mae tystysgrif ei gyd-athrawon yng Nghaerdydd a'i ddisgyblion i'r un perwyl.
Wrth gwrs, ni ddywedir y cwbl mewn tystysgrif: gedy Garcia ei "obstreperous" allan. Beth, ynteu, a ddywed tystion y tu allan i "briodoleddau" y dystysgrif? Dyma ddywed Mr. D. Jenkins, mewn ysgrif amddiffynnol iddo adeg helbul y Gadair: "Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro Cerddorol, ond gallaf dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd"; ac yn ddiweddarach (yn 1913): "Ni ystyriem ef yn athro da ond i'r rhai oedd