addysg gerddorol cyn lleted â'r genedl—a ddatblygwyd ac a fagwyd yno—yn dod i hunan-fynegiant ac i hunansylweddoliad dechreuol. Meddiannodd ei ddychymyg, a llanwodd ei galon ag awydd i'w sylweddoli oedd cyn gryfed ymron a'i awydd i gyfansoddi; a diau mai hyn yn fwy na dim arall a'i harweiniodd i Abertawe, fel gwell canolbwnc i'w weithgarwch nag Aberystwyth.
Un ffurf arbennig ar y gweithgarwch cerddorol yr amcanai ei gynhyrchu yn y wlad, yn ychwanegol at yr eisteddfod a'r cyngerdd, a'r gymanfa ganu arferol, oedd yr Wyl Gerddorol, i berfformio prif weithiau gan Gymry, a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn â hi. Efallai y byddai'n fwy priodol galw y rhain—fel y bodolent yn ei syniad ef— nid yn " ffurfiau " ar weithgarwch cerddorol, yn gymaint ag yn drosolion i'w ddyrchafu a'i fwyhau. Gwelsom iddo alw sylw at yr angen amdanynt yn flaenorol, ond yn awr y daeth i'w pregethu a'u hargymell, yn gudd ac yn gyhoedd, drwy air ac ysgrifbin, a cheisio eu gwneuthur yn erthyglau yn y gred gerddorol Gymreig, nes peri i " Gronicl y Cerddor" eu galw yn hobbies y Doctor.
Rhediadau allan o'r un delfryd oedd y gyfres o lawlyfrau bychain cyfaddasi ddechreuwyr ar ddatganu, cynghanedd, etc. a ysgrifennodd yn Abertawe, ac a ddechreuodd gyhoeddi yn 1888 dan yr enw "The Cambrian Series." Ni chredaf fod ei edmygwyr mwyaf yn ystyried Parry yn llenor; hyd yn oed pan yw ei ramadeg yn gywir y mae ei iaith yn fwy celfyddydol na chelfydd, a'i frawddegau yn drwsgl—yn fwy fel arllwysiad gorfodol sugn-beiriant na rhediad ffynnon, fel y gellir bod yn sicr mai poen iddo ef oedd mynegi ei hunan mewn geiriau. Am y rheswm hwn, y mae ei glod yn fwy am iddo ysgrifennu cymaint yn ystod y blynyddoedd hyn ar faterion cerddorol—i'r cylchgronau cerddorol, y "South Wales Weekly News," "Y Tyst a'r Dydd " y "Genedl Gymreig," ac mewn papurau a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol, y Cymrodorion, a chymdeithasau eraill. Dyhead cryf i fod o wasanaeth yn unig a barai iddo wneuthur hyn.
Yn awr hefyd yr ymaflwyd ynddo gan y syniad rhyfedd o lyfr tonau cenedlaethol gan un dyn! Cyfansoddasai aml i dôn odidog yn flaenorol, megis " Aberystwyth " a