ef gan ei fab talentog, Mr. J. Haydn Parry. Cynorthwyai Mendelssohn, y mab arall, hefyd, ond nid i'r un graddau a Haydn. Un o wleddoedd cerddorol y dref oedd cyngerdd blynyddol y Coleg. Gofalai Parry fod rhyw un cerddor o fri yn bresennol yn y cyfryw, yr hwn a draddodai anerchiad ar y gelfyddyd yn ei hystyr uchaf, etc. Gwelid Parry yn ei afiaith ar yr achlysuron hynny. "Cartrefodd ef a'i deulu yn Eglwys Ebenezer. Dr. Thomas Rees oedd y gweinidog arni ar y pryd. Anogodd Dr. Rees yr eglwys i wneuthur darpariadau fyddai yn fanteisiol i dynnu allan oreu Parry, sef gosod i mewn organ fawr ac oriel newydd i'r côr. Hyd nes yr oedd y pethau hyn yn barod, chwareuai Parry ar yr harmonium fach mor foddhaus a chydwybodol ag y gwnai drachefn ar yr organ fawr. Cyrchai y bobl yno i'w glywed, yr hyn oedd yn foddion dyrchafol os nad yn foddion gras mewn gwirionedd. Teimlem fod ysbryd Parry yn cael digon o le i ledu ei adenydd pan wrth yr organ. Dichon y dywed cerddorion nad oes llawer o art mewn chwarae emyn-dôn. Ond yn ei fyd ei hun, y mae cryn lawer ynddo. Y mae gwahaniaeth rhwng chwarae a chwarae hyd yn oed emyn-dôn, fel ag y sydd rhwng darllen a darllen yr emyn. Beth bynnag am hynny medrai Parry greu awyrgylch ffafriol iawn i addoli ynddo wrth chwarae y dôn drosti cyn dechreu canu. Cawsom y fraint o fod yn aelod o'i gôr am tua saith mlynedd, ac yr oeddem mewn safle i weld yr argraff wnai weithiau ar y gynulleidfa. Saif un enghraifft yn fyw yn awr ar ein meddwl. Un bore Sul, rhoddodd Dr. Rees yr emyn allan, cyn gweddïo, o lyfr Stephens a Jones:
I fyny at fy Nuw
Fy enaíd, côd dy lef,
Heibio'r angylaidd lu,
Hyd eithaf nef y nef:
Gostwng Dy glust o'r bryniau fry,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.
'Carmel' oedd y dôn. Erbyn fod Parry bron gorffen chwarae, gwelem ddagrau ar aml i rudd, a phan ddechreuwyd canu, methem â chael o hyd i'n llais. Parchai