bob aelod yn y côr; siaradai yn barchus â ni oll. Diolchai yn gynnes i'r organ blower, yr hwn oedd yn digwydd bod yn un o'r rhai na allai gael côt newydd gyda phob blwyddyn newydd. Ond nid oedd ei gôt yn gwneuthur un gwahaniaeth i Parry. Cyfarchai ef Mr. Jones gan ysgwyd llaw ag ef mor barchus a neb; a braidd na allem ddywedyd y rhoddai Jones ei einioes dros y Doctor pe byddai rhaid. Un o deimlad cynnes, tyner iawn oedd Parry. Gwelsom ef yn tynnu y deigryn i ffwrdd ddeuai i'r golwg o dan ei wydrau pan fyddai Dr. Rees yn cael gafael yn y pwerau tragwyddol, ac yn ceisio ymsythu fel petai dim byd wedi bod yn union drachefn. Canem anthem bob nos Sul, nid y côr yn unig, ond yr holl gynulleidfa. Darparai anthemau o nodwedd addolgar, hawdd i'r gynulleidfa eu dysgu a'u canu, megis 'Y Mab Afradlon.' 'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws,' 'Gweddi'r Arglwydd,' a lliaws o rai eraill. Ei brif amcan yn yr addoldy ynglŷn â'r canu oedd nid dangos beth ellid ei wneuthur, yn gelfyddydol, ond arwain y meddwl trwy gymorth y sain a'r gair i dir cysegredig addoliad. Clywsom ef yn dywedyd ei fod yn ysgrifennu tôn gynulleidfaol bob prynhawn Sul, pan na fyddai yn mynd i'r Ysgol. Yr oedd gan donau lleddf afael fawr ar ysbryd Parry yn yr addoliad. 'Roedd hyn yn rhyfedd ag ystyried ei fod ef mor llon a bywiog ei ysbryd yn naturiol. Cytunai ef a Dr. Rees yn hyn o beth yn berffaith. Ond yr oedd Dr. Rees yn naturiol leddf a chwynfannus ei lais, er y gallai ef fod yn ddigrif dros ben hefyd. Clywem ef o'r côr yn gofyn i Parry cyn ei fod yn dechreu pregethu, ' Canwch dôn leddf, Doctor '; ac yr oedd yn ei chael. Yn Sir Gaerfyrddin, ni fyddem yn canu 'Diniweidrwydd' byth braidd ond mewn gwylnos neu angladd: nid felly Parry. Yr oedd mewn ffafr ganddo ef yn enwedig yng nghyfarfod yr hwyr, pan fyddai y gynulleidfa yn gref. Cerddai trydan drwy yr holl le gan wresyr organ a'r canu oedd arni ar yr emyn
"O anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw gras," etc.
"Mynychai yr Ysgol Sul, a chynhaliai Ysgol Gân i'r plant ar y diwedd. Hoffai glywed plant yn canu, a gwyddai