yn dda y modd i'w cael i hwyl i wneuthur hynny. Dygai allan y pryd yma rannau newyddion o 'Telyn yr Ysgol Sul'
"Yr oedd nifer o ddoctoriaid yn Ebenezer y pryd hwnnw heblaw Dr. Rees, Dr. Parry, a mab Dr. Rees, yr hwn oedd feddyg galluog. Doctoriaid yn y Beibl oedd y rhai hyn, ac i ddosbarth y doctoriaid yr ai Parry. Ymffrostiai y dosbarth hwn eu bod yn treulio chwech wythnos i esbonio un adnod y n yr Epistol at y Rhufeiniaid. Rhyw dro, trodd cwestiwn y dilyw i fyny, a daeth Parry i enw drwg iawn am ddywedyd, 'Bobol fach, nid ydym i ddeall fod dyfroedd dilyw Noa wedi gorchuddio yr holl ddaear' Dywedai un o'r dosbarth drannoeth 'gall ei fod yn gwybod rhywbeth am ganu, ond ŵyr e ddim am y Beibl' Chwarddai Parry yn iachus am gael ei gyfrif yn heterodox am y tro."