XIII. Y Coleg Cerddorol
(The Musical College of Wales—M.C.W.).
YR wythnos olaf yn Ebrill, 1881, cynhaliwyd cyfarfod A yn yr Agricultural Hall, Abertawe, i groesawu Dr. Parry, ac i roddi cychwyniad i'r coleg cerddorol. Daeth nifer da o bobl ynghyd, ond nid cymaint ag a ellid ddisgwyl, a hynny, meddir, am na chymerwyd trafferth i hysbysebu r cyfarfod yn briodol.
Gan fod y maer yn analluog i fod yn bresennol cymerwyd y gadair gan Dr. Rees, ac ar ol gwrando ar anerchiad Dr. Parry, pasiwyd penderfyniad: " Gan fod Dr. Parry wedi datgan ei fwriad i sefydlu Coleg Cerddorol Cymru yn Abertawe, fod y cyfarfod yn ymrwymo i roddi iddo bob cynhorthwy yn ei allu, ac yn dymuno yn galonnog bob llwyddiant iddo," ac etholwyd pwyllgor o wŷr blaenllaw Abertawe i hyrwyddo sefydlu'r coleg yn y dref.
Ond gorwedd prif ddiddordeb y cyfarfod i ni yn awr yn anerchiad Dr. Parry, ei syniad ynghylch yr angen am goleg, a'r hyn a amcanai drwyddo. Gan nad yw yr anerchiad ond parhad o'i sylwadau wrth gychwyn ei academi yn Aberystwyth, ni a ddechreuwn gyda'r rheiny.
"Heddyw," meddai'r Doctor, "y mae fy efrydwyr a minnau yn mynd dan gyfnewidiad mawr. Am bum mlynedd buom yn myfyrio o fewn muriau y coleg, ac o dan nawdd y cyngor; ond heddyw dyma ni yn ail-ddechreu myfyrio y tu allan i'r sefydliad agsydd wedi bod, ac a fydd eto, yn agos iawn at ein calon." Yna, wedi galw sylw at ddawn gerddorol Cymru, a'r angen am ei diwyllio, terfynodd drwy ddywedyd: " Yr wyf yn gobeithio fod yr hyn a wnawn yma heddyw yn gam cyntaf tuag at gael coleg cerddorol i Gymru, ac y cynhydda y myfyrwyr mor fawr, fel y gallwyf gael nifer o athrawon galluog mewn lleisio, cyfansoddi, a chwarae'r delyn."
Yn ei anerchiad yn Abertawe dechreuodd ar nodyn o ddwyster drwy ddywedyd ei fod o wir ddifrif am ganolbwyntio ei ymdrechion i ddyrchafu y gelfyddyd gerddorol yng Nghymru. Meddai gwledydd eraill golegau