Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT DR. JOSEPH PARRY.


I. Cofiant Artist.

SONIA y meddylegwyr am eudeb meddylegol, wrth yr hyn y deallant y dyb y rhaid i ganfyddiad o goch, dyweder, fod yn ganfyddiad coch. Y mae yn rhywbeth tebyg ym myd bywgraffiaeth, pan y tybir y rhaid i fywgraffiad o gerddor fod yn fywgraffiad cerddorol, neu un o wyddonydd yn un gwyddonol. Wrth gwrs, ymae'r ymgais wedi ei wneuthur droeon i gynhyrchu rhywbeth o'r fath gyda'r canlyniad mai cynnyrch cymysg- ryw a geir nad yw y naill beth na'r llall. Y mae gan Munger lyfr felly ar Bushnell. Flynyddoedd yn ol cyhoeddwyd cyfres o lyfrau ar y prif athronwyr oedd yn ceisio cyfuno hanes eu bywyd ag ymdriniad â'u hathroniaeth. Yn ddiweddar gwelsom fywgraffiad i Lord Kelvin yn rhoddi hanes ei fywyd a'i ddarganfyddiadau ar eu hochr fesuronol—llyfr na fedrai neb ond mesuronydd disgybledig ei ddeall. Mor ddiweddar a diwedd y flwyddyn ddiweddaf ymddangosodd cofiant i W. Honeyman Gillespie —dyn a ymgysegrodd i'r gwaith o geisio profi i'r deall fod Duw'n bod—yn cyfuno hanes ei fywyd a chrynhodeb o'i gyfundrefn, a beirniadaeth un o'r prif olygyddion Seisnig arno oedd ei fod yn ceisio cyfuno y bywgraffydd a'r golygydd yn y llyfr—beirniadaeth a ragdybia eu bod i'w cadw ar wahân. Ac ar wahân y ceir hwy fel rheol, y cofiant yn gyntaf, a'r gweithiau a'r ymdrin arnynt wedyn. Ac y mae'r rheswm dros hyn yn amlwg: y mae darllen y ddau yn gofyn ymgyfaddasiad meddyliol gwahanol, ac nid yw yn beth hyfryd newid yr ymgyfaddasiad yn gyson —fel bwyta uwd a thalpiau ynddo. Pan eisteddwn i ddarllen stori, gosodwn ein hunain mewn osgo gyfaddas i stori ar esmwythfainc, a stori ydym am gael ac nid pregeth na rhesymeg: gallai cadair tipyn yn fwy caled fod yn fwy o help i'r olaf!

Ynglŷn â hanes cerddorion—a cherddoriaeth yn arbennig —y mae eu lle i ymdriniadau felly, rhywbeth tebyg i le y traethawd beirniadol ar weithiau rhyw awdur, neu ar raddfa fwy, tebyg i le llawlyfrau ar hanes athroniaeth.