Cynghanedd, Gwrthbwynt, Cerddorfaäeth, etc.; y byddai pedair gwers yn wythnosol yn yr oll o'r dosbarthiadau yn costio chwe gini, a llai yn ol y nifer; y byddai evening classes, a postal lessons yn nodweddion arbennig.
Wrth ddarllen yr anerchiadau hyn, teimlwn fod Parry yn llygad ei le pan yn pwysleisio'r angen am ddysg i ddatganu'n iawn, i ddehongli'r prif weithiau a bod yn alluog i arwain côr a cherddorfa'n ddeallus, ac yn olaf i gyfansoddi; ond teimlwn ei fod yn mynd braidd ymhell tuag at anwybyddu arloeswyr y gorffennol, pan yn sôn am osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Ond y mae yn amlwg nad hyn a olygai yng ngoleuni yr hyn a ddywed ychydig yn ddiweddarach yn ei ddarlith o flaen aelodau y Royal Institution, Abertawe, ar ein dyled i'n cerddorion ymadawedig: " Yr wyf yn ofni y dichon fod tuedd ym meddyliau cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig, a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig. Yr ydym yn dra dyledus i'n lleiswyr, ein harweinyddion, a'n cyfansoddwyr ymadawedig; ac yr wyf wedi teimlo'n fynych y byddai'n resyn ac yn gywilydd mawr i ni fel cerddorion y cyfnod presennol adael i'w henwau a'u gwasanaeth amhrisiadwy fynd i ebargofiant, heb gofiant priodol a ffyddlon. A byddai'n dda iawn gennyf weld rhyw eisteddfod yn cynnyg gwobr dda am draethawd teilwng yn rhoddi braslun o'u bywydau a'u ffyrdd gwledig. Yr wyf yn meddwl y dylai pob cerddor Gymreig gael y cyfryw lyfr, yn ffurfio cyfran o'i lyfrgell."
Gan y datgana ei ofn—gerbron y Royal Institution—fod tuedd mewn "cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig," y mae'n amlwg mai'r garreg "gyntaf" mewn adeilad o addysg gerddorol gyfundrefnol a olygir uchod; addysg a fyddai'n pwysleisio a datblygu'r nodweddion cenedlaethol a noda, ac yn ffurfio "ysgol" o gerddoriaeth gydnabyddedig.
Ond pan y sonia am ddiogelu ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n naturiol i ni ofyn a oedd Parry'n teimlo'r perigl ynddo ei hunan, oblegid yn ystod y cyfnod hwn yr oedd i raddau mawr—i raddau gormodol meddai rhai