Llundain. Gan fod gini o draul i'r holl arholiadau uchod, tybed y cawn gefnogaeth gan gerddorion Cymru pe bawn yn ffurfio arholiadau ynglŷn â'r coleg hwn, a hynny am brisoedd iselach-cael y papurau a'r gwersi yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg, fel y gallo pob Cymro bartoi a sefyll yr arholiadau hyn ym mhrif bentrefi a threfi Cymru. . . . A oes rhyw un a ddywed ei farn, a yw yr awgrym hwn yn deilwng o sylw a mabwysiad"? Ond nid yw'n gwneuthur y peiriant addysgol a sylw'r cyhoedd yn brif bethau, gan anghofio ansawdd a gwir effeithiolrwydd. Yn ei anerchiad yn un o gyngherddau y myfyrwyr yn yr Albert Hall cawn ef yn rhoddi pwyslais arbennig ar efrydiaeth dawel. Wedi dywedyd fod " nosweithiau cerddorol " yn fanteisiol i efrydwyr ieuainc, am eu bod yn eu dysgu i fagu ymddiried ynddynt eu hunain, i " glywed ei gilydd, a bod yn dystion i ragoriaethau ei gilydd yn eu gorymdaith gerddorol "; i ennyn " ymddiried y cyhoedd fel ag i ennill eu cydymdeimlad a'u hymdrechion "; am eu bod hefyd "yn foddion i'w hegwyddori yn y gwahanol arddulliau sydd yn nodweddiadol o wahanol genhedloedd a gwledydd"; ac "yn peri i efrydwyr gymryd mwy o boen i feistroli yr anawsterau celfyddydol sydd yn perthyn i weithiau da ac uchel; gan felly helpu y dehonglydd i fod yn gyfrwng cywir rhwng cyfansoddwr a gwrandawr"; ychwanega, "ar yr un pryd ni charwn i chwi fy nghamddeall; tra yn mawr gymeradwyo yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn . . . carwn ddywedyd yn bendant a difrifol, na ddylai hyn gymryd lle ond ar ol astudiaeth hir a dyfal. Y mae pob cynnydd gwirioneddol yn cymryd lle yn dawel gartref, ar ol ennill goruchafiaeth ar anawsterau celfyddydol trwy gyfrwng astudiaeth gydwybodol a chaled; oblegid nid yw yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn ond rhoddi mantais i'r efrydwyr i arddangos ffrwyth eu llafur yn y gorffennol. Byddai yn dda i ni gofio fod pob gwaith gwirioneddol yn cael ei ddwyn ymlaen yn dawel: y mae cynnydd iachus gyda cherddoriaeth yn cymryd lle yn dawel ac yn araf, ac y mae pob gweithiwr gonest a gwirioneddol yn mynd yn y blaen yn dawel: dygwyd pob gwaith mawr i fod mewn neilltuedd a thawelwch."