XIV. Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad.
ONIBAI i Eisteddfod Genedlaethol Merthyr godi safle a gonestrwydd Dr. Parry fel beirniad i sylw y cyhoedd, a bod yr hanes sydd gennym yn taflu goleuni gwerthfawr ar ei gymeriad, buasai yn fwy hyfryd gadael i gweryl y gantawd ynglŷn â'r eisteddfod honno bydru mewn ebargofiant, fel aml i lygredd arall perthynol i'r eisteddfod.
Yr hanes yn fyr yw hyn: Cynhygid gwobr o £21 gan Gôr Cymreig Llundain, a thlws aur gan bwyllgor yr Eisteddfod, am y gantawd oreu i libretto ar y testun "Cantre'r gwaelod," i'w dwyn allan yn y brif ddinas gan y côr. Y beirniaid oedd Tanymarian, Dr. Parry, a Mr. J. Spencer Curwen. Barnai Tanymarian "Corelli " yn oreu, a chydwelai Mr. Curwen ag ef. Barnai Dr. Parry "Taliesyn Ben Beirdd " yn oreu, a "Corelli " yn drydydd, ond at hynny ni farnai y goreu yn deilwng o'r wobr. Ym Merthyr hysbysodd Dr. Parry Mr. Curwen o'i farn, a phan ddeallodd yr olaf fod ganddynt hawl i atal y wobr, cydunodd yn union â'r Doctor i wneuthur hynny. Yn y cyfamser yr oedd "Corelli," sef Mr. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion) rywsut wedi cael ar ddeall mai efe oedd i gael y wobr, ac wedi dod o Gaernarfon i'w derbyn; yna pan ataliwyd y wobr, trodd ef a'i ffrindiau i chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn Dr. Parry'n arbennig. Y mae yn beth tra hynod i rywbeth tebyg ddigwydd ynglŷn ag Eisteddfod Conwy yn 1879, pryd y cydfeirniadai Dr. Rogers, Dr. Parry, a Thanymarian. Ffafriai Tanymarian yr un gŵr (dan yr enw "Clementi") y pryd hwnnw hefyd, tra y barnai y ddau ddoethur Alaw Ddu ("Palestrina") yn oreu, ac efe wrth gwrs gadeiriwyd. Ond mynnodd Pencerdd Eifion yrru'r ddau fotett i Syr Julius Benedict, ac yr oedd ei farn ef ar ochr Tanymarian. Teg dywedyd, ran hynny, mai dim ond "tueddu" i roddi'r wobr i "Clementi" wnai Tanymarian, ac "nad oedd yn dewis penderfynu rhyngddynt." Ymddangosodd math ar her yn "Y Gerddorfa": Y mae Tanymarian a Syr Julius Benedict wedi cyhoeddi