eto pan y digwydd amgylchiad neu amgylchiadau a hawlia y ddyletswydd hon ar ein dwylo, ni fydd i ni betruso ei chyflawni: un o'r cyfryw ydyw cwestiwn y gantawd ym Merthyr—un o bwys nid yn unig yr adeg hon, ac i'r personau neilltuol sydd yn gymysgedig ag ef, ond un o bwys am holl amser, ac i bob cerddor a beirniad gwir a gonest y sydd neu a ddaw. Am wythnosau lawer y mae colofnau un o'n newyddiaduron—yr un yr honnir ei fod yn 'brif bapur y genedl '—wedi bod at rydd wasanaeth dyrnaid o ddynion yn cael eu harwain gan un a wisga y ffugenw (ymysg eraill) o'r 'Crwydrad,' neu—a theg i Gymru benbaladr wybod pwy ydyw yr oracl newydd hwn parth geirwiredd a gonestrwydd ein prif feirniad cerddorol— Mr. L. W. Lewis, (Llew Llwyfo). Yng ngholofnau y 'prif bapur' hwn ysgrifenna y boneddwr yna na phenderfynodd Dr. Joseph Parry ar atal y wobr cyn dyfod i Ferthyr, ac mai 'ar ei gwybod pwy oedd 'Corelli' y penderfynwyd atal. Yn y 'Cronicl' am fis Hydref cyhoeddwyd beirniadaeth Dr. Parry, fel ag y'i derbyniwyd o'i law gan y golygydd, yn union ar ol y dyfarniad gan Mr. Curwen. Fe wêl y darllenydd ei bod yn dwyn y dyddiad r Awst 27'— dri diwrnod cyn adeg yr Eisteddfod, a bod yr ysgrifennydd y pryd hwnnw (Awst 27)—cyn cychwyn o'i gartref yn Abertawe, ac heb wybod pwy oedd gwir awdur y gantawd a ddygai yr enw 'Corelli' (yr hon oedd wedi ei chopïo gan professional copyist)—wedi penderfynu, ac wedi ysgrifennu fod r ei farn a'i ddyletswydd yn ei orfodi i wneuthur y gorchwyl blin ac annymunol o atal y wobr. I bob boneddwr byddai hynyna yn derfynol ar y pwnc, ac eto ar ol gweld y dyfarniad yna yn argraffedig, yn wythnosol beunydd parha 'Crwydrad ' i ail—ysgrifennu ei haeriadau cyntaf, ac i honni, o ganlyniad, fod Joseph Parry yn dywedyd celwydd, ac wedi gosod forged date wrth ei feirniadaeth! Dyma i gerddorion ieuainc Cymru esiampl o'r hyn ydyw boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a geirwiredd, ym marn rhai pobl! Past all shame—so past all truth! Bellach nid oedd yn aros i Dr. Parry ond, naill ai cwympo dan waradwydd, neu ynteu i brofi ei uniawnder; herid ef yn haerllug i'r ornest; y mae'r her wedi ei derbyn, ac wele gyfran o'r canlyniad: