Oddiwrth lythyr Dr. Parry "at ei gydgenedl," ymddengys y cyhuddid ef nid yn unig o newid ei farn wedi gwybod pwy oedd "Corelli," ac o osod "forged date" wrth ei feirniadaeth, ond hefyd o beidio darllen y cyfansoddiadau. Y mae'n alluog i gyfarfod â'r cyhuddiad, ac i alw tystion ei fod wedi eu darllen, ac wedi nodi'r gwallau ar y copïau, yr hyn na wnaeth y beirniaid eraill a'u darllenodd o'i flaen. Nid oedd sail o gwbl i'r cyhuddiad, nac i gyhuddiadau eraill o'r fath, ond yn nychymyg cystadleuwyr drwgdybus a siomedig. Cawn brawf digwyddiadol arall o'i drylwyredd fel beirniad yn ateb Emlyn i gais Mr. Tom Price i fwrw golwg dros gantawd o'i eiddo a fuasai dan feirniadaeth Parry:
"Darllenais feirniadaeth Dr. Parry, ond braidd yn frysiog, ac nid wyf yn awr yn gallu galw i gof ei wahanol bwyntiau; yr oedd braidd yn llym, mae'n wir, ond fe wna beirniadaeth o'r fath lawer mwy o les i chwi nac wmredd o wageiriau. Y mae hefyd wedi mynd drwy'r copi yn fanwl, ac nid pob beirniad sydd yn gwneuthur hynny y dyddiau hyn."
Adroddir neu ynteu awgrymir llawer o bethau amdano fel beirniad ar ddatganu—pethau sydd mor bell ag y mae a fynnont ag egwyddor a'r bwriad i wyro barn mor ddisail a chyhuddiadau "Crwydrad." Gwyddis yn dra chyffredinol erbyn heddyw am gynllwynion cyfrwysddrwg gwibed y gelain eisteddfodol i faglu'r beirniad diniwed; ond ar y cyntaf pwy feddyliai am y fath ystryw? Oni bydd i ni wylio a gweddïo—yr ydym bawb yn agored i gael ein hudo oddiar y ffordd uniawn gan ein hunangariad a'n vanity, pan deifl yr un drwg damaid i'r cyfryw. A hyn a wna y rhai dichellddrwg uchod: nid ymfodlonant ar gystadleuaeth onest; nid ydynt yn ddigon gonest hyd yn oed i gynnyg tâl i'r beirniad; flanking movement yn hytrach na frontal attack yw eu dull o geisio goresgyn y sedd feirniadol—ceisiant ennill ffafr y beirniad drwy ei hunan—gariad. Ynglŷn âg Eisteddfod Llandudno gyrrodd un a gynrychiolai un o brif gorau'r de at ddau o'r beirniaid— Dr. Parry yn un—i ddywedyd y bwriadent gynnal Festival Gerddorol yn y dref honno y flwyddyn ddilynol, yn yr hon y byddai rhai o weithiau y ddau feirniad yn cael lle amlwg,