XV. Yr Arweinydd.
"BU y saethyddion cystadleuol yn chwerw wrtho am! i dro, a chlwyfwyd ei ysbryd yn dost gan rai arweinwyr aflwyddiannus. Ei deimlad ef oedd y byddai lawer yn well ganddo gael perfformiad o'i weithiau yn y cyngherddau na beirniadu." Hyfryd oedd ganddo ddod yn ol i'w gartref at ei gyfansoddi a'i ysgol o Eisteddfod Merthyr a mannau eraill, a hyfryd i ninnau ei ddilyn i awyrgylch mwy hynaws a chydnaws â'i anian.
Ond ochr yn ochr â chyfansoddi a chadw ysgol (ynghyda chanu'r organ ar y Sul), rhed ei weithgarwch yn Abertawe o'r cychwyn ymron mewn sianel arall, sef y Gymdeithas Gorawl-un o brif anghenion y cyfansoddwr cerddorol. Gwrandawer arno ef ei hun yn y Royal Institution:
[1]"Y mae'r deisyfiad cynhyddol am gyngherddau oratoraidd yn ein gwlad yn arwydd tra iachus, ac yn deilwng o bob cefnogaeth posibl; ond y mae yn dwyn gydag ef yr hawliau cyfartal am gerddorfäu (orchestras); hefyd am ddosbarth uwch o arweinwyr. Un dasg, a thasg gym- harol hawdd, ydyw addysgu ac arwain lleisiau yn unig, ac mewn un ganig neu gytgan; ond ymgymeriad cwbl wahanol ydyw addysgu ac arwain traethgan gyfan yn yr holl fanylion o gytgan, cerddorfa, ac artists, yn enwedig y rhai hynny gan ysgrifenwyr diweddar, gan y rhai y mae yr adnoddau cerddorfaol yn cael eu trethu mor llymdost, ac yn ffurfio cynseiliau yr holl waith, a chan y rhai y mae arddull y gerddoriaeth mor newydd, mân-ddarniog, ac mor ddyrys, yn eu hymdrechion at gynhyrchu effeithiau newyddion. I gyflawn amgyffred y fath weithiau, heb y gradd lleiaf o syniad na gwybodaeth o ddyrys ac amryfal adnoddau y gerddorfa, ac heb unrhyw wybodaeth, o fath yn y byd, o gyfansoddiad cerddorol, yn ei amryfal fanylion. o arliwiaeth a dringraddebau, sydd or-niweidiol i unrhyw waith a gaffo ei arwain yn ol yr ysgôr lleisiol yn unig, ac heb y wybodaeth uchod. Y mae yn amhosibl i bob aelod
- ↑ O'r "Geninen."