Cyfarthfa, Merthyr. Yn y Neuadd Gerddorol cafwyd gan y Choral Society (Mr. Harlington Jones) y 'Creation (Haydn) un noson, a Chantawd Tywysog Cymru' (Owain Alaw) noson arall. Yn Singleton Abbey, lle yr arhosai'r Tywysog, chwareuid y delyn Gymreig gan Gruffydd, telynor cyffredinol Arglwyddes Llanover ac arbenigol ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru; chwareuid hefyd gan Seindorf y Cyfarthfa dan flaenoriaeth Mr. Livesey. "Wrth edrych drwy y program swyddogol o'r gweithrediadau uchod, syn gennym am absenoldeb dau enw—Dr. Parry ac Eos Morlais, un o'n prif gyfansoddwyr, ac arall o'n canwyr. Paham hyn?
Y flwyddyn ddilynol dechreuodd y gymdeithas ar ei gwaith o ddifrif. Yn y "Cambrian News" am Hydref, 1882, cawn yr hysbyseb:
"The Swansea Musical Festival Society.
Weekly Rehearsals, Monday, 8 p.m.
Mendelssohn's 'Hymn of Praise';
Also Woman of Samaria' (Bennett);
'Emmanuel.'"
Cynorthwyai'r gymdeithas yng nghyngerdd cyntaf y Coleg Cerddorol ddiwedd y tymor gaeaf (1882). Ni chyfyngai Parry, fel y gwelir, gylch y datganu i'w weithiau ei hun. Ni roddwyd "Emmanuel cyn Mawrth, 1884. Am y datganiad hwn dywed "Cerddor y Cymry": "Y mae yn amlwg fod Dr. Parry'n llafurio o dan lawer o anfanteision yn Abertawe. Y mae yno gymdeithas gerddorol gref, a sefydlwyd ac a ddygwyd i sylw gan y diweddar Mr. Silas Evans, ond sydd yn bresennol o dan arweiniad Eos Morlais yn dwyn allan weithiau o bwys yn flynyddol; ond nid y gymdeithas hon ddygodd allan waith Dr. Parry. Llafuriai côr Dr. Parry a'r gymdeithas gorawl felly ar wahân; ac fel cwrs naturiol, y mae yna fath ar gydymgais rhyngddynt, a chyda hynny dipyn o deimlad.
Yr oedd yn amlwg fod y côr yn y perfformiad hwn dipyn yn wan ac ansicr—y mae yn gofyn nerth mawr i ddatganu darnau o'r fath—ac onibai mai yr awdur bywiog a galluog oedd wrth y llyw, buasai y llong yn debyg