Crea y cerddor gyfuniadau o nodau cerddorol i fynegi ei ddrychfeddyliau, ond gwaith yr arweinydd yw atgynhyrchu y drychfeddyliau hyn mewn seiniau drwy gyfrwng personau cydnaws y rhaid iddo eu hatynnu, neu eu darostwng iddo ei hunan.
Perthynai Parry i linell Wagner a Berlioz o arweinyddion; nid rhai mohonynt hwy yn curo batwn pren mewn modd peiriannol y tu allan i'r côr a'r gerddorfa, ac nid rhai dysgedig a galluog i ddehongli yn unig chwaith; ond rhai a'u rhoddai eu hunain i ddrychfeddwl yr hyn a genid, ac a ddioddefai wewyr esgor newydd wrth geisio atgynhyrchu ei "seiniau tân a'i suon tyner" mewn eraill. Arferai Wagner stormio, hisio, cylchdroi, stampio â'i draed fel ynfytyn, ac yna wenu'n dyner heb braidd symud llaw na throed," fel y byddai'r galw—yn y rehearsals. "Pan fyddo yn gwestiwn o rehearsal gorawl," meddai Berlioz, y mae yna fath ar ddicter yn fy meddiannu; y mae fy ngwddf yn cau i fyny, a rhaid i mi sylldremu ar y cantorion fel y Gascon hwnnw a giciodd hogyn bychan diniwed, a phan feiwyd ef am hynny, am na wnaeth y bychan un drwg, a atebodd, Beth pe buasai wedi gwneuthur! Ond yna pan gaffai ddatganiad wrth ei fodd, methai gynnwys ei lawenydd. "Ah! chwi feirdd!" torrai allan, "nid oes llawenydd i chwi fel y llawenydd o arwain. Carwn gofleidio'r gerddorfa yn ei chrynswth." Meddai wrth Liszt: Meddyliwch am . . .allu chwarae ar orchestra, a chael dan eich llaw offeryn byw ac aruthrol." Yr oedd ei unoliaeth â'r gerddorfa, a'i feistrolaeth arni, rai prydiau mor hollol, fel y dywedodd Tywysog Almaenaidd wrtho, "Nid arweinydd yn unig mohonoch chwi—chwi yw'r orchestra hefyd."
Cafodd Parry brofi o'r gorfoledd hwn rai prydiau, er nad bob amser. Yr oedd naill ai y côr yn "wan ac ansicr neu ynteu byddai ef yn cael ei amddifadu o'r arweinyddiaeth, ac ambell i waith un anfedrus yn cael ei benodi i arwain. Yr haf wedi'r datganiad uchod o "Emmanuel" rhoddwyd ei "Nebuchadnezzar" yn un o gyngherddau Eisteddfod Lerpwl gyda medr a hwyl neilltuol. "Cafwyd perfformiad da ar y cyfan," meddai "Cerddor y Cymry," "a hynny dan arweiniad yr awdur galluog: y gerddorfa yn chwarae yn