gampus a'r effaith yn dda. . . Cadwyd y gynulleidfa fawr mewn cyffro drwy'r amser: cafodd ei swyno a'i syfrdanu, ac ar y diwedd nid oedd neb yn gwybod paham. Rhaid cael gallu anarferol i wneuthur hyn. Cafodd yr awdur dderbyniad brwdfrydig, ac yr oedd yn ei haeddu."
Cafwyd perfformiad llwyddiannus o "Nebuchadnezzar" gan gôr Ebenezer (a'u cynorthwywyr) nos Calan 1885, dan arweiniad yr awdur.
Dywedir wrthym ei fod yn "mwynhau popeth a gyfansoddai." Ond y mae'n bosibl gwneuthur gormod o'r diffyg hwn ynddo. Yn y lle cyntaf, y mae pob arweinydd teilwng o'r enw—a phob aelod o'r côr, o ran hynny, a phob gwrandawr a ddaw i mewn i'r hwyl—yn ei afiaith pan yw ysbryd cyfansoddiad yn meddiannu'r cwbl, a phawb yn un â'i gilydd Daw elfen arall o bleser i mewn i gyfansoddwr pan fyddo'n arwain ei waith ei hun, pleser llai pur ond nid llai o bleser serch hynny, yn ol cryfder y fyfiaeth fo mewn dyn. Tebyg fod hon yn dra chryf yn Parry, fel mewn hogiau'n gyffredin, ond pwy sydd hebddi : "Yr wyf yn ofni," meddai'r Athro Edward Caird, un o'r dynion mwyaf pur ac aruchel ei ysbryd, "nad yw y teimlad mai ni sydd wedi gwneuthur rhyw waith byth yn ein gadael."
Heblaw hyn rhaid fod yna fwynhad hollol arbennig yn eiddo'r cyfansoddwr with atgynhyrchu eto unwaith ei ddrychfeddyliau mewn cwmni cydnaws a deallus, a gweld y lledrithiau delfrydol y bu ef mewn unigrwydd yn cwmnïa hwy yn gwisgo cnawd, ac yn ymddangos i eraill mewn gwisg drybelid o seiniau, a chael yr ymdeimlad "mai da oedd." Yr oedd Parry'n agored iawn i swyn cwmnïaeth felly, pan nad oedd cyfle i gôr; pan ai i Wyl y Tri Chôr i Henffordd nid ystyriai hi'n ormod trafferth i gludo rhyw waith mawr o'i eiddo yn ei gist deithio er mwyn cael ei ddatganu gyda'r ffrindiau yno; pan wedi gorffen rhyw gyfran o waith gartref, gyrrai at Mr. Tom Stephens a chyfeillion eraill i ddod yno i'w ganu; ac os na chaffai hynny, gwnai rhyw enethod fyddai'n digwydd galw yn y tŷ y tro i wrando ar ganu darn newydd ar y piano—a disgwyliai i bawb ddod i mewn i'w hwyl ef ei hun, a'i anghofrwydd o dreigl amser.