XVI. Y Llenor.
Y MAE nifer o'r prif gerddorion wedi bod yn hyddysg mewn meysydd eraill, megis Athroniaeth a Hanesiaeth, er enghraifft Gounod a Wagner; y mae eraill, megis Mozart a Mendelssohn, wedi bod yn llythyrwyr da; ac ychydig yn llenorion gwych, megis Schumann a Berlioz. Ond hyd yn oed pan feddant ddawn a medr i hyn, anaml y bydd eu calon yn y gwaith; fel y dengys y ffrwydriad a ganlyn o eiddo'r olaf: "Gadewch i mi sefyll drwy'r dydd â'r batwn yn fy llaw, yn disgyblu corws, yn canu'r rhannau fy hunan, a churo'r mesur nes poeri gwaed, ac ymaflyd o'r cramp yn fy mraich; gadewch i mi gario cistfyrddau, double basses, telynau, symud llwyfannau, hoelio ystyllod fel gweithiwr cyffredin neu saer, ac yna dreulio'r nos i gywiro gwallau cerfwyr a chopïwyr. Bûm yn gwneuthur hyn; yr wyf yn ei wneuthur yn bresennol; mi a'i gwnaf eto. Y mae hyn yn rhan o'm bywyd cerddorol, a goddefaf ef heb feddwl amdano, fel y dwg heliwr fil blinderau'r helfa. Ond am sgriblo'n dragwyddol i ennill bywioliaeth!"
Anodd i'r rhai fu'n carlamu gyda'r gwŷr meirch yw arafu a chydgerdded gyda'r gwŷr traed!
Yr oedd Parry'n fwy tebyg i Schubert nac i un o'r gwŷr uchod, heb nemor ddiddordeb mewn dim ond cerddoriaeth, nac amynedd i lythyru, na hamdden na hwyl i ysgrifennu. Ni allwn feddwl amdano'n eistedd i lawr i ohebu: pe byddai ganddo ohebiaeth fawr y byddai'n rhaid rhoddi sylw iddi, yr unig ffordd iddo ef fyddai cael gwasanaeth pin ysgrifennydd buan i gymryd i lawr ei eiriau a'i frawddegau blith-draphlith, ac yntau'n cerdded i fyny ac i lawr yr ystafell.
Pan sylweddolwn hyn, rhyfeddwn iddo ysgrifennu cymaint; ond rhyfeddwn lai pan sylwn fod y cwbl yn troi oddeutu ychydig bwyntiau a phynciau cerddorol ag y teimlai ef ddiddordeb arbennig ynddynt, fel athro a cherddor, megis, yr angen am ddisgyblaeth fwy ar ddatganwyr, arweinyddion, a chyfansoddwyr; yr angen am gerddorfäu, a disgyblaeth offerynnol; yn ddiweddarach,