Yn un o'i ysgrifau yn y "South Wales Weekly News yng nghwrs y flwyddyn hon (1887), wrth gyfeirio at ei lyfr, sieryd Parry gyda chymeradwyaeth am Lyfr Emynau Thomas Gee fel casgliad cenedlaethol, a dywed fod ei Lyfr Tonau ef ei hun—yn yr arddull cenedlaethol—yn un a fwriedir i gyfateb yn gerddorol iddo, yn fath ar gyfaniad cerddorol arno. Erbyn 1898, gwelir fod yr uchelgais hwn wedi cael ei gymedroli'n fawr yn lle bod yn gyfaniad (complement) i Lyfr Emynau Gee, golyga i'w Lyfr Tonau fod yn atodiad (supplement) i'r Llyfrau Tonau oedd yn bod eisoes.
Yn ei feirniadaeth ar y rhifyn cyntaf yng "Ngherddor y Cymry," gesyd Alaw Ddu ei fys yn ddeheuig ar wendid canolog y syniad cyntaf uchod:
"Ni fuasai ond cawr o ddyn yn meddwl am y fath idea a hon—cyfansoddi llyfr cyfan o donau cynulleidfaol! Digon hawdd i gerddor o ymarferiad a gallu gyda thalent y Pencerdd, i gyfansoddi ugeiniau o donau cynulleidfaol; ond peth arall yw cynhyrchu rhai â digon o fywyd ac individuality ynddynt i fyw. Un peth yw cyfansoddi, peth arall yw cynhyrchu tonau. Y mae eisiau llyfr tonau cenedlaethol, hynny yw, un a fydd at wasanaeth y genedl Gymreig, ac nid enwad; ond ni all hwnnw fod yn gynnyrch un meddwl, onide[1] celfyddydol ac arwynebol o angenrheidrwydd a fydd."
Nid yw y syniad ond enghraifft arall o duedd yr awdur i gymryd ei gario gan ryw uchelgais mawr, heb arfer barn o gwbl yn y mater; yn wir ni arhosai—drwy fyfyrdod a darllen yng nghwmni'r syniadau sy'n angenrheidiol i ffurfio barn. Pe buasai wedi ymgydnabyddu â'r syniad o "Unoliaeth mewn Amrywiaeth "mewn cyfnodolion neu ynteu yn y paragraff "Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd," ac aml i baragraff arall, cedwid ef rhag y fath gamhyder ynddo ei hun. Yn sicr, yr oedd Alaw Ddu yn nês at fath uwch ar fawredd pan yn dywedyd, "Ni all un cyfansoddwr wneuthur mwy na hanner dwsin o donau gwir dda ac uchel mewn oes hir"; neu Emlyn pan yn sôn am fenter Ambrose Lloyd yn rhoddi pump a deugain o'i
- ↑ Yn yr ystyr o artificial.