Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwybodol o hyn, a dyna'n ddiau paham y cafodd gan Brifathro Aberystwyth, a dau o aelodau'r cyngor (naill ai yn awr, neu ynteu yn 1888 ac 1896) i wneuthur cyfeiriad at hyn. Fel hyn y rhed tystysgrif Mr. Stephen Evans, cyn-drysorydd Coleg Aberystwyth:[1]

Llundain, E.C.,
Awst 28, 1883.

"Annwyl Dr. Parry,

Drwg gennyf na chynhaliwyd cyfarfod Cyngor Coleg Aberystwyth i'w gwneuthur yn bosibl i basio penderfyniad o'ch plaid fel ymgeisydd am y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Nghaerdydd. Teimlaf yn sicr na fyddai unrhyw anhawster i sicrhau y fath benderfyniad. Yr wyf yn ofni hefyd y byddai teimlad o ledneisrwydd yn rhwystr i Arglwydd Aberdâr a Mr. Lewis Morris i uno â mi i roddi tystysgrif i chwi, gan eu bod yn aelodau o Gyngor Caerdydd. Dan yr amgylchiadau hyn, teimlaf nad yw allan o le i mi gymryd arnaf fy hun y cyfrifoldeb o fynegi i chwi deimladau ffafriol Cyngor Coleg Aberystwyth tuag atoch chwi. Gallaf ychwanegu i'r penderfyniad i beidio a pharhau yr adran gerddorol godi o ddiffyg arian, a bod gan y Cyngor, yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni, a'ch medr rhagorol fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth. Yn bersonol, gallaf ddywedyd fy mod i, fel y rhan fwyaf o Gymry, wedi gwylio'ch cwrs fel artist a chyfansoddwr gyda diddordeb dwfn, a'm bod yn credu y gwna Cyngor Caerdydd adlewyrchu anrhydedd ar eu coleg drwy'ch apwyntio chwi i'r swydd yr ydych yn ymgeisydd amdani.

Yr eiddoch yn ffyddlon.
STEPHEN EVANS."

Beth bynnag, a phwy bynnag, oedd y tu cefn, yr oedd dewis estron o flaen dau Gymro a feddai ar gymwysterau gwell i'r swydd yn sarhad ar y genedl. Gesyd tystysgrif ei gyd-gerddorion Cymreig bwyslais neilltuol ar yr arwedd genedlaethol i'r mater.

  1. Gallwn gasglu oddiwrthi i Parry ofyn i Gyngor Coleg Aberystwyth basio penderfyniad o'i blaid fel ymgeisydd yng Nghaerdydd!