"Fel organnydd yr oedd yn effeithiol iawn. Un peth nodweddiadol ohono oedd y rhannau offerynnol a chwareuai rhwng penhillion yr emyn. Rhoddai hyn awgrym i'r côr sut i ganu y pennill dilynol o hyd, ac yr oedd yn dra chynorthwyol. Wrth ganu yr emyn 'Yn y llwch, Waredwr hael' deuai y nodwedd yma i'r golwg yn arbennig iawn. Ni fentraf ei gymharu ag organyddion eraill (gwaith rhywun profiadol yw hynny), ond gwn ei fod yn gallu taflu rhyw nwyf ac ysbrydiaeth rhyfedd i'r canu trwy gyfrwng offeryn digon gwael, a thynnu allan ohono bob nodyn o gerddoriaeth er cynorthwyo mawl y gynulleidfa. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthym yn Ebenezer oedd, y dylem gael pipe organ tu ol i'r pulpud, ond nid am ryw ddwy flynedd ar ol hynny y daeth hynny i ben.
"Un nos Sul, yr oedd ei drên o Benarth yn ddiweddar, a phan ddaeth y Doctor i mewn, yr oeddym yn canu yr emyn agoriadol heb yr organ. Cymerodd ei le yn dawel wrth yr offeryn cyn i ni orffen y pennill cyntaf. Gosododd ei glust wrth y nodau, ac fe ddaeth o hyd i'r cyweimod y canem ynddo, a daeth yr organ i mewn gyda'r ail bennill mor naturiol nes synnu pawb, yn enwedig y rhai na wyddai ei fod wedi cyrraedd.
"Bryd arall, yr oedd yn arwain cymanfa yr Annibynwyr yn Wood Street yn y flwyddyn 1889. Yr oedd gennym fel cyfeilydd y diwrnod hwnnw, fachgen ieuanc a ystyrrid yn organnydd da iawn. Yr oedd tôn o waith Dr. Parry ei hun, 'Ebenezer,' i'w chanu yng nghyfarfod yr hwyr, a phan ddeuwyd at hon, chwareuodd yr organnydd y ddwy linell gyntaf cyn dechreu canu fel arfer. Nid oedd hyn yn boddio y Doctor, ac amneidiodd i'r organnydd dynnu allan ragor o'r stops. Gwnaeth yntau felly, a chwareuodd drachefn. Nid oedd hyn eto yn gwneuthur y tro, ac aeth ein gwron ei hun at yr offeryn, a chan arwain y cantorion â'i ben, chwareuodd yn y fath fodd nes peri i ni feddwl mai organ arall, fwy a gogoneddusach, oedd.
Fel arweinydd, teimlaf mai anwastad oedd yn ei gyflawniadau. Yr oedd ar rai adegau yn ddiflas iawn, ond ar brydiau eraill byddai fel pe yn ysbrydoledig. Yr oedd bob amser yn dueddol i fod yn ddiamynedd, ond credaf fod hyn yn nodweddiadol o wir athrylith. Cofiaf