XX. Storm Biwritanaidd.
NID anaml y cymherir un sy'n hoff o gweryl a gornest i stormy petrel—yr hyn sy'n gam â'r aderyn, ac â'r storm. Y mae rhywbeth sy'n aruchel ac aruthr mewn storm; a phan ddarllenwn am Faraday'n mynd filltiroedd i weld storm daranau, neu am Beethoven yn mwynhau'r mellt a dychmygu'r daran, gwelwn fod yna swyn iddynt hwy mewn gallu a'u codai allan o'u myfiaeth gyfyng eu hunain i'w arucheledd a'i alluowgrwydd ei hun—yr oeddynt hwy'n hoff o'r storm am ei bod yn ateb i ryw arucheledd ynddynt hwy, er mai ei dilyn a wnaent, nid ei rhagfynegi fel y petrel. Ond pan elwir un fel Fred Burnaby, a ai ar draws cyfandir i geisio rhyfel a thywallt gwaed, neu ambell un arall a fynycha feysydd llai gwaedlyd ond nid llai cynhenllyd, yn stormy petrel, y mae hynny, meddwn, yn sarhad ar y storm a'r aderyn.
Ond os caniatawn am y foment fod y ffugr o storm yn gweddu i gweryl a chynnen, ymosod ac erlid, ac os cofiwn mai cael ei ddilyn gan y storm mae'r petrel, yna gallwn alw Joseph Parry'n stormy petrel, gan ei fod, er o ran anian a hoffter yn fab tangnefedd, yn un diniwed ac anymladdgar, eto'n cael ei amgylchynu o'r tu ol a'r tu blaen gan wregys o gwerylon; ar ei waethaf, yr oedd braidd yn gyson mewn rhyw gythrwfl neu'i gilydd. Yr oedd hyn yn ddyledus, rai prydiau, i lif awen; brydiau eraill i'w fyfïaeth; ond byth i'w hoffter ef o dinc cleddyfau.
Ar un olwg y mae'n beth syn i Biwritaniaeth yr oes ohirio'i phrotest mor hir, a'i bod yn rhaid iddo fynd i Gaerdydd cyn i hynny ddigwydd Hyd lannau Teifi, a'r ardaloedd cylchynol yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, nid wyf yn cofio cymaint a murmur yn erbyn chwarae "Blodwen " yn ystod cyfnod Aberystwyth; ac yn ddiweddarach yn Abertawe, yn ol Mr. D. Lloyd, ai y bobl yn lluoedd i'w gweld a'i gwrando, ar waethaf rhyw gymaint o ragfarn "yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy." Torrodd y "storm", allan yng Nghaerdydd ynglŷn â pherfformio "Blodwen" ac "Arianwen" yn y