mawr cerddorol. Ceir yn ei arddull gyfuniad rhyfedd o'r hen a'r newydd, ac o'r Cymreig a'r tramorol. Yfodd ef yn ddwfn o ffynhonnau tramor—o Spohr, Mendelssohn, a Wagner, ac yn enwedig o Rossini a'r ysgol Eidalaidd; ond y mae naws Gymreig yn treiddio drwy ei holl weithiau— ar brydiau gyda nerth angherddol. Er fod adnoddau cerddoriaeth y byd at ei wasanaeth, ac er y nodweddir llawer o'i waith gan newydd-deb a beiddgarwch, eto rhed yr hen dinc Cymreig fel llinyn euraid drwy y cwbl."
"Credai yn gryf y medrai gyfansoddi," meddai Mr. D. Jenkins, "a phe buasai wedi dysgu bod yn fwy llym a beirniadol uwchben ei gynhyrchion, nid oes un cerddor yn Lloegr heddyw, oddigerth Elgar, a fuasai'n rhagori arno." "Yr oedd yn awengar, ond yn rhy ddifater beth osodai i mewn; yr oedd yn afradus ar ei eiddo ei hun ac eiddo eraill, a dyma yr unig beth a'i rhwystrai i fod y cerddor blaenaf a feddai Cymru a Lloegr." "Yr unig beth!" Ond ai nid peth hanfodol ym myd celfyddyd? " Gellir adnabod artist wrth yr hyn a edy allan," meddai Schiller. Onid yw'r uchod agos megis pe dywedasai un, "Yr unig beth a rwystra'r dyn ieuanc o ddelfryd ysbrydol uchel i fod yn sant yw diffyg hunan-reolaeth." O leiaf y mae'n amlwg fod eisiau rhywbeth mwy nag awen neu athrylith i wneuthur artist, a'r peth hwnnw hefyd yn rhywbeth gwahanol i wybodaeth o egwyddorion y gelfyddyd. Galwer y gallu yn rheswm artistig (artistic reason), os mynner, fel y gelwir y gallu i amgyffred a chymhwyso delfryd moesol yn practical reason; ond rhaid cofio fod y naill a'r llall yn wahanol iawn i reswm rhesymegol (logical) yr athronydd cyfundrefnol. Pan ddygir yr olaf yma i mewn i le llywodraethol ym myd celfyddyd, fel ym myd crefydd, y mae'n brawf ac achos o ddirywiad, fel y gwelir yng ngweithiau George Eliot, Robert Browning, a Goethe: credaf hefyd, er nad wyf yn alluog i draddodi bam sicr, fod llawer gormod o athronyddu gan Wagner. Ni ellir artist yn fwy na morwr heb y llif, mae'n wir, eto dengys morwr da ei fedr mewn gwneuthur defnydd o'r llif, fel na bo iddo gael ei gario ar ddisberod. Y mae ysbrydoedd y proffwydi i fod yn ddarostyngedig i'r proffwydi.