gwna ein blaenoriaid crefyddol wasanaethu oreu yr achos sydd yn ddiau yn agos at eu calonnau, ond drwy gymryd sylw o dueddiadau'r oes, a'u cyfarfod drwy foddion doeth. Pe cefnogid cerddoriaeth y cysegr mewn ysbryd hael yn lle ei phrin oddef, a phe, er esiampl, y ceid datganiadau teilwng o weithiau teilwng yn ein haddoldai, mewn ffurf o wasanaeth crefyddol yn achlysurol, teimlaf yn gryf na fyddai yr ieuenctid mor chwannog i fynd i wrando seindorf ar y Sul, nac i fynd i chwareudy yn yr wythnos.
Rhaid dechreu gartref hefyd, a chofio am gysondeb; nid gwiw collfarnu cantodau, a gwrando'n ddigon boddus ar ganeuon iselwael yn ein capeli; na chondemnio mynd i'r chwareudy, tra ar yr un pryd yn caniatâu afreoleidd-dra yn ein tai o addoliad mewn cysylltiad â chyngherddau, eisteddfodau, a chyfarfodydd eraill, na oddefid mewn unrhyw chwareudy trefnus."
Rhydd Mr. Seward, gweinidog annibynnol yng Nghaerdydd, mewn ateb call a chryf, ei fys ar wendid y chwareudy a Phiwritaniaeth. Wedi cyffesu nad oedd ganddo ef ei hun amser i fynd i chwareudy, dywed—gydag Aristotle—fod yna duedd yn awyrgylch y sefydliad i ddatblygu archwaeth at y coeg, yr arwynebol, a'r gwagsaw, i'r Piwritaniaid ei gollfarnu oherwydd ei lygredd wedi'r Adferiad (Restoration), ac i'r dramodwyr dalu'r pwyth yn ol yn eu gwawdluniaeth. "Ond," meddai, "nid yw yn Gristnogol i dynnu llinell na fedr dylanwadau crefyddol ei chroesi. Fy ymgais i yw plannu egwyddorion da i fod yn amddiffyn rhag y llygredd sydd yn y byd yn hytrach nac ymosod ar sefydliadau."
Y mae'n ddiffyg canolog mewn Piwritaniaeth ei bod yn gwneuthur i "burdeb" ddibynnu ar "dynnu llinell " rhwng pethau a phethau, yn hytrach nag ar egwyddor fewnol a'n galluoga i ymwneud â phopeth yn ei le; ac ar yr ochr hon perthyn yn agosach i Iddewaeth nac i Gristnogaeth. Fe gymerodd gryn amser i Paul a Phedr i weld nad yw un creadur a wnaeth Duw yn aflan, ac nid yw Piwritaniaeth gul yn gweld hynny eto. Cynnwys crefydd iddi hi yw ymwneud â phethau crefyddol, nid ymwneud â phopeth, yn yr ysbryd fawn—rhoddi i bopeth ei le ei hun. Nid oedd y pregethwr hwnnw ymhell o'i le, a ddywedai