wrth y "brodyr" fod y bechgyn a giciai'r bel droed yn y cae y tu allan i'r capel, gan reoli eu tymer, a hunanymwadu a chydweithredu, yn well Cristnogion na hwynthwy na fedrent drin materion crefydd heb dymer ddrwg a chweryl cyson. Y mae'n ffaith awgrymiadol i'r gweinidogion Cymreig fel corff gymryd ochr Parry—nid am eu bod yn Gymry, nac ychwaith, mi gredaf, am nad oes digon o chwareudai yng Nghymru i gynhyrchu teimlad yn eu herbyn, ond yn hytrach am fod gwirionedd yr Efengyl wedi gloywi golygon y Cymro, tae faint mae wedi gyfnewid ar ei galon—tra y mae y Sais yn para'n fwy o Iddew. Bid sicr, y mae yna lu o bobl y " mynydd hwn a Jerusalem yng Nghymru rhai a gyfrif lawer o'r ddaear sydd y cwbl ohoni'n llawn o'i ogoniant Ef" yn ddiofryd. Gwyddom am rai a gondemnia fynd i gyngerdd! Ni welant mai nid duwioldeb mo hyn, sy'n gyfystyr å dywedyd wrth Dduw, "ni ddylaset fod wedi gwneuthur y creadur hwn"; nac ychwaith mai'r peth logical iddynt hwy yw cau pob da naturiol (yn feddyliol a chorfforol) allan o'u bywyd—barddoniaeth, gwyddoniaeth, hanesiaeth, busnes, priodas, a hyd yn oed bwyd a diod—a chyflawni hunanladdiad!
Ar y llaw arall rhaid i ni gofio mai nid gwaith arbennig yr Eglwys yw bod yn fagwrfa i'r buddiannau llai; ond canolbwyntio ar yr ysbrydol a'r moesol, fel ag i droi allan ddynion fyddo'n alluog i drafod y buddiannau llai yn ol eu lle a'u gwerth cymharol. Ein perigl ni y dyddiau hyn, efallai, yw i'r pethau llai gymryd lle y prif amcan, nid yn unig mewn bywyd, ond hefyd yn yr Eglwys.
Ni welsom i Parry gymryd rhan yn nadleuon y pleidiau gwrthwynebol o gwbl yn fwy na brysio i gyhoeddi "Saul o Tarsus"! Ond cawn iddo roddi sylw—drwy ohebydd a ddaeth i'w weld ar y mater—i ymosodiad arall a wnaethpwyd arno mewn perthynas â'r un operäu.
Bu y perfformiadau yn 1890 yn eithriadol lwyddiannus, y chwareudy dan sang, y canwyr yn eu hwyliau goreu, a'r brwdfrydedd mor fawr fel ag i fod yn fwy o rwystr nag o help ymron. Cariwyd Parry i ffwrdd gan y llif, a phan ymddangosodd ar gais y dorf ar y diwedd, yr oedd yn orchfygedig gan ei deimladau. Ymhlith pethau eraill dywedodd yr arhosai'r wythnos honno byth yn ei gof.