a loes na ellid ei gynhyrchu gan biwritan na beirniad. Yr oedd ei fab ieuengaf, Willie Sterndale, wedi bod yn gwaelu, "yn araf, araf wywo" ers blwyddyn neu ddwy, ond hunodd yn yr angeu yng ngwanwyn 1892, er galar nid yn unig i'w berthynasau, ond i lu o gyfeillion, ac efe yn awr yn fachgen ugain oed. "Hoffus ydoedd gan bawb," meddai un gohebydd—"enillodd ei dymer addfwyn, ei ymddygiad boneddigaidd, a'i gymeriad dilychwin iddo edmygwyr a ffrindiau lawer. Penderfynodd ddilyn yn ol troed ei dad am ei fywoliaeth. Nid yn unig meddai ar lais da, ond yr oedd wedi ymaflyd ers llawer o amser yn y piano, ac yn ddiweddar mewn cynghanedd a gwrthbwynt. . . . Bu farw fel pe yn mynd i gysgu."
Yr oedd Parry'n ddyn o deimladau tyner, a hoff iawn o'i blant; a diau i'r amgylchiad leddfu llawer ar ei ysbryd, a dofi ei ynni. Prawf o hyn yw iddo roddi arweinyddiaeth yr "Orchestral Society" i fyny, gan roddi ei deimlad briw fel rheswm dros hynny; tebyg fod y gwaith ag yr oedd yn rhaid ei wneuthur yn gymaint o faich ag a allai gario ar y pryd. Ac eto y mae gwaith fyddo'n ennyn ein diddordeb yn pylu min ein gofid—yn arwain y sylw i ffwrdd oddiwrth ei achos gan felly leihau ei artaith. Ac felly y bu i Parry'n ddiau y pryd hwn; yn neilltuol yr oedd y gwaith o ddwyn allan un o'i brif weithiau, a hwnnw'n un oedd yn symud ar lefelau uchel, yn fwy o help nag o rwystr iddo anghofio'i boen.
Gelwir "Saul o Tarsus" ar y copi yn "Dramatic Oratorio, or Scenes from the life of St. Paul." Y mae geiriau'r libretto wedi eu dethol o'r Ysgrythyr, gyda rhai telynegion gan Dewi Môn. Yn yr olygfa gyntaf cawn Saul yn erlid y Cristinogion, y daith i Damascus, a'i droedigaeth. A'r ail â ni at Paul a Silas yn Philippi—y carchar a'r ddaeargryn. Y mae y drydedd olygfa yn Jerusalem—gŵyl y Pentecost, y deml, a'r carchar; a'r olaf yn Rhufain yn diweddu gyda phrawf a dienyddiad Paul.
Rhoddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym Medi. "Yr oedd y perfformiad," meddai un o olygyddion y "Cerddor,"