yn llwyddiant digymysg, er bod y rhan gyntaf o'r gwaith yn rhagori ar y rhan olaf; ac yr ydym yn tueddu'n gryf i feddwl y byddai'n welliant pe gadewid allan rai o'r symudiadau lleiaf pwysig, y rhai sydd hefyd mewn ystyr yn anghysylltiol." Ac meddai'r llall: "Parth y perfformiad yr ydym yn cydweld â'n cydolygydd; yn unig yr ychwanegwn mai nid yn aml y cafodd gwaith newydd y fath berfformiad rhagorol, ac y mae yr awdur i'w longyfarch yn galonnog ar y gwaith newydd hwn Yr ydym wedi cael y fantais o glywed gweithiau newydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yng ngwyliau Leeds, Henffordd, Birmingham, a Llundain, a da gennym dystiolaethu fod gwaith newydd Dr. Parry'n rhagori ar rai o'r gweithiau a ddygwyd allan yn y gwyliau hyn. Credem y buasai torri tri chwarter o'r gwaith i ffwrdd yn y rhannau olaf, fel na fyddai'r gwahanol olygfeydd mor debyg i'w gilydd, yn welliant . . . Darnau rhy operatic sy'n ei andwyo fel gwaith cysegredig." Am y perfformiad yng Ngwyl Caerdydd ychydig yn ddiweddarach, dywed yr un beirniad: "Rhaid dywedyd na chafwyd agos cystal perfformiad ag a gafwyd yn y Rhyl, a hynny'n unpeth am nad oedd y côr wedi ei ddysgu cystal, ac yn ail am nad oedd yr awdur yn arwain mor sefydlog; a chymerai rai darnau mor gyflym fel ag i'w gwneuthur nid yn operatic, ond yn comical; mae yn sicr ei fod wedi niweidio rhannau o'r gwaith drwy eu cymryd yn rhy gyflym."
Rhoddwyd ail berfformiad o'r gwaith yn Nhachwedd gan yr un côr, dan arweiniad yr awdur—perfformiad llawer gwell, ond ni chefnogwyd yr anturiaeth gan y cyhoedd fel y disgwylid.
Gyda golwg ar y gwaith ei hun, sieryd y "Daily Telegraph" braidd yn wawdus, a dyfynna ddywediad Wagner am gerddorfäeth or-helaeth Berlioz, "ei fod wedi ei gladdu dan adfeilion ei beiriannau ei hun," a gobeithia nad hynny fydd tynged Dr. Parry. Y mae y "Musical Herald " yn dra chlodforus: gwir fod yna ormod o fanylion a'r darlun wedi ei growdio, ond y mae yn waith "rhyfeddol o darawiadol ac effeithiol, a'r rhan offerynnol yn ffres ac edlym." Pan roddwyd y gwaith yn 1895 yn Newcastle-