Ceir yn y gyfrol olaf, yn ychwanegol at alawon wedi eu trefnu fel unawdau, nifer wedi eu cynganeddu i wahanol leisiau,—cymysg, benywaidd, a gwrywaidd.
Yr oedd hwn yn waith cariad yn gystal ag yn offeryn elw iddo, a phrawf y ffaith ei fod yn troi gwaith mor dda allan gyda chyflymder a wnai i Dewi Môn a'i fagad beirdd ebychu'n dost, ei fod yn cael mawr hwyl wrtho.[1] Ond yng nghanol y mwynhad hwn, a chyda bod y clwy o golli Willie'n dechreu gwella, dyma'r "cnoc bach" ar y drws yn dod eto yn awr i 'nol Haydn, ei fab hynaf, nid ym "mlodau" ei ddyddiau fel ei frawd ieuengaf, ond pan wedi dechreu cynhyrchu ffrwyth o wir werth, a roddai addewid am gnwd toreithiog—yn fab naw ar hugain oed. Pan ofynnwyd unwaith i'r Frenhines Victoria sut y teimlai wrth golli un plentyn ar ol y llall, ei hateb oedd i farwolaeth y Tywysog Albert wneuthur rhwyg digon mawr yn ei chalon i'r lleill syrthio drwodd heb roddi iddi nemor loes. Ond ni ellir dywedyd hyn am Parry: nid oedd y boen of golli Haydn efallai'n fwy llym na'r un o ffarwelio â Willie, ond yr oedd yn fwy llydan a dwys.
Dyma ddywed Mr. D. Jenkins amdano: "Gan ein bod wedi treulio cymaint o flynyddoedd gyda'r teulu yn Aberystwyth, cawsom gyfleustra i weld tueddfryd ei galon, ac mor bell ag y gallem farnu, y piano oedd prif ffynhonnell ei ysbrydoliaeth, a daeth yn gryn feistr ar yr offeryn hwn heb ryw lawer o wersi cyson, ond yn unig trwy rym ymarferiad. Tyfodd i fyny'n chwareuwr yn ddiarwybod iddo'i hun a'i deulu. Nid oedd yn efrydydd caled o gwbl, felly difater fu ynglŷn â'i ddosbarthau a'i wersi. Credwn ei fod wedi dysgu cynganeddu heb wybod yn iawn pa fodd. Yn hyn yr oedd yn hollol wahanol i'w dad athrylithgar, un o'r gweithwyr caletaf y daethom i gyffyrddiad ag ef erioed." "Amlwg ydyw ei fod wedi creu disgwyliad ymhlith rhai o gerddorion Llundain, ac y mae hyn yn llawer i Gymro, lle y mae cymaint o ragfarn yn bodoli." "Yr unig rai (o'i weithiau) ydym wedi weld
- ↑ Wedi marw'i fab hynaf, aeth Parry am daith i'r Amerig, ond nid cyn gorffen ei waith ar y "Cambrian Minstrelsie," ag eithrio un alaw, cyfeiliant i'r hon a ysgrifennwyd gan Emlyn.