ydyw y sonata fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl, a'r gantawd 'Gwen.' Oherwydd na chlywsom 'Cigarette' a 'Miami' —y rhai a ystyrid yn rhagori ar 'Gwen,' yr oedd yn naturiol i ni feddwl yn uwch am ei dad fel cyfansoddwr." Yr oedd wedi ei benodi i ysgrifennu gwaith ar gyfer Gŵyl Gerddorol Caerdydd, a dywedai wrth Mr. Jenkins ei fod wedi agos ei orffen yn Ionawr; ond yr oedd y cwbl yn ei gof, gan na chafwyd dim ymhlith ei bapurau. Bwriadai i'r gwaith fod o natur hollol wahanol i bopeth a gyfansoddasai'n flaenorol.
Camsyniad yw dywedyd, fel y gwna rhai bywgraffwyr, i "Sylvia" gael ei chyfansoddi yn 1889, a'i gwneuthur yn fath ar "study companion" gwaith y ffenestr arall—i "Saul." Y dyddiad cyntaf ar y copi yw Gorffennaf 24, 1893, a'r olaf Mehefin 25, 1895. Perfformiwyd hi yn y Theatre Royal, Caerdydd, yn 1895. Y mae y libretto—gan Mr. Mendelssohn Parry—yn sylfaenedig ar chwedl boblogaidd ynghylch y Tylwyth Teg, a'u perthynas â llecyn yr arferent ei fynychu yn ymyl pentref. Yn ôl y gân ddechreuol gan Arthur (yr arwr), byddai i neb weld y "Tylwyth" yno ddwyn melltith ar y pentref; byddai dal llygad un ohonynt yn ei gwneuthur yn fod dynol a'i gwisgo â chnawd ac esgyrn; byddai cyffyrddiad yn ei gwneuthur yn eiddo i'r sawl a'i cyffyrddai am byth; a chusan yn ei rhyddhau o'r cnawd eilwaith. Yr "egwyddorion" hyn mewn gweithrediad geir yn y libretto. Y prif gymeriadau yw "Sylvia," elffig (fairy), a droir yn eneth gan edrychiad "Arthur"; syrth y ddau mewn cariad â'i gilydd a gedy ef ei fywyd bugeiliol i'w dilyn; brawd ieuanc i "Arthur" yw "Osmund," a dilyna yntau'r ddau. Y mae y cadfridog Rhufeinig "Severus" mewn cariad â "Sylvia." Y prif gymeriad arall yw "Thurston," yr olaf o'r derwyddon.
Syrth "Sylvia" ac Arthur" i ddwylo'r Rhufeiniaid. Y mae Thurston yn eu dwylo eisoes, a bygythiant ei ladd, ond ar gais "Sylvia" arbedir ei fywyd. Bwriada "Severus" drwy'r hynawsedd hwn brynu serchiadau "Sylvia," ond pan wêl ei siomi, rhydd orchymyn i'w llosgi'n fyw. Partoir y stanc a'r ffagodau, ac y mae'r cwbl yn barod i'r aberth, pan y cusennir "Sylvia" gan ei